Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, wants to see more communities allowed to take on responsibilities for local assets.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government was speaking during a debate on the Local Government and Housing Committee Report: 'Community Assets'.
He said:
Community assets, make such a big contribution to the lives of people who live in our communities, and I think sometimes we forget about that and we only remember when it's too late, and those really important community buildings, assets, pieces of land are no longer available to our communities.
There are many different types of community assets across Wales, all of which bring immense benefits to the people we represent and their well-being ranging from libraries to pubs, community centres, and leisure centres. They are often crucial hubs in local areas, allowing people to learn new skills, come together, to socialise, to remove some of those barriers from people's lives that prevent them from meeting and being with friends.
I was pleased to see Welsh Government accepting a recommendation calling on them to review and update existing guidance on community asset transfers, because there does seem to be some significant inconsistency across Wales and within local authorities, when it comes to those asset transfers.
A key aspect of ensuring the importance and success of community assets is sharing good practice which is something that came up time and time again when, as committee members, we visited a number of these community-run assets. There are also a number of obstacles and challenges which face local communities when they attempt to assume control and concern across some local authorities in Wales that many are reluctant to give away or transfer their assets.
It is clear that more needs to be done in facilitating greater power and collaboration for local communities, with local people being best placed to understand and handle local issues. Public bodies are likely to face a challenging time ahead during which use of assets and management of assets will be an important part of future planning. I am confident that our communities are ready, able and willing to take on these assets, but need the right tools and support.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at bwysigrwydd asedau cymunedol
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, am weld mwy o gymunedau yn cael ysgwyddo cyfrifoldebau am asedau lleol.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol, yn siarad yn ystod dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: 'Asedau Cymunedol'.
Meddai:
Mae asedau cymunedol yn gwneud cyfraniad aruthrol i fywydau’r bobl sy’n byw yn ein cymunedau, ac weithiau, dwi'n meddwl ein bod ni'n anghofio hynny nes ei bod hi'n rhy hwyr, a dyw'r adeiladau cymunedol hollbwysig hynny, asedau, darnau o dir, ddim ar gael i'n cymunedau ni mwyach.
Mae llawer o wahanol fathau o asedau cymunedol ledled Cymru, sydd i gyd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl a’u lles, yn amrywio o lyfrgelloedd i dafarndai, canolfannau cymunedol a chanolfannau hamdden. Maen nhw'n aml yn hybiau hanfodol mewn ardaloedd lleol, yn caniatáu i bobl ddysgu sgiliau newydd, dod at ei gilydd i gymdeithasu, i gael gwared ar rai o'r rhwystrau ym mywydau pobl sy'n eu hatal rhag cyfarfod a mwynhau cwmni ffrindiau.
Roeddwn yn falch o weld Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhelliad yn galw arni i adolygu a diweddaru'r canllawiau presennol ar drosglwyddo asedau yn y gymuned, oherwydd mae'n ymddangos bod peth anghysondeb sylweddol ar draws y wlad ac o fewn awdurdodau lleol, o ran trosglwyddo asedau.
Un o'r agweddau allweddol ar sicrhau pwysigrwydd a llwyddiant asedau cymunedol yw rhannu arferion da, rhywbeth a gododd dro ar ôl tro pan wnaethom ni, aelodau’r pwyllgor, ymweld â llawer o'r asedau hyn sy'n cael eu rhedeg gan y gymuned. Mae llu o rwystrau a heriau hefyd sy'n wynebu cymunedau lleol wrth geisio cymryd rheolaeth, a phryder ar draws rhai awdurdodau lleol fod llawer yn gyndyn o ildio neu drosglwyddo eu hasedau.
Mae'n amlwg bod angen gwneud mwy i hwyluso mwy o rym a chydweithio ar gyfer cymunedau lleol, gyda phobl leol yn y sefyllfa orau i ddeall materion lleol ac ymdrin â nhw. Mae cyrff cyhoeddus yn debygol o wynebu cyfnod heriol pan fydd y defnydd o asedau a rheoli asedau yn rhan bwysig o gynllunio at y dyfodol. Rwy'n hyderus bod ein cymunedau yn barod, yn gallu ac yn awyddus i gymryd yr awenau, ond mae angen yr offer a'r cymorth cywir arnyn nhw.