Sam Rowlands, MS for North Wales is backing Bowel Cancer UK’s campaign to help raise awareness of symptoms during Bowel Cancer Awareness Month this April.
Mr Rowlands recently attended an event at the Senedd to hear about the current challenges facing bowel cancer patients, and what was needed to change so more people can survive their diagnosis.
He said:
As a North Wales Member of the Welsh Parliament I am totally committed to increasing awareness of bowel cancer symptoms, both locally and nationally.
Bowel cancer is the fourth most common cancer in Wales, and the second biggest cancer killer in the country with around 2,300 people diagnosed every year. Leading to over 900 deaths.
However, it is treatable and curable especially if diagnosed early so it is vital we get this message across. It is absolutely vital if you are concerned to do something about it and I would urge anyone who is worried that something is wrong, to visit their GP.
A recent survey by Bowel Cancer UK found that four in ten, 45%, people in the UK cannot name any symptoms of the UK’s second biggest cancer killer.
Men are less likely to recognise any bowel cancer symptoms with over half of UK men, 55%, unable to spot any signs of bowel cancer, compared to 36% of women. This is concerning as more men than women are diagnosed with bowel cancer each year.
This April, Bowel Cancer UK is calling on everyone to raise even more awareness and support for people affected by the disease. They want more voices to be heard to drive positive change by championing early diagnosis and campaigning for best treatment and care.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at bwysigrwydd diagnosis cynnar o ganser y coluddyn
Mae Sam Rowlands, yr Aelod Rhanbarthol o'r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi ymgyrch Bowel Cancer UK i helpu i godi ymwybyddiaeth o symptomau yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn ym mis Ebrill eleni.
Yn ddiweddar, mynychodd Mr Rowlands ddigwyddiad yn y Senedd i glywed am yr heriau presennol sy'n wynebu cleifion canser y coluddyn, a'r hyn sydd angen ei newid er mwyn i fwy o bobl allu goroesi ar ôl cael diagnosis.
Meddai:
Fel Aelod Rhanbarthol Gogledd Cymru yn y Senedd rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i gynyddu ymwybyddiaeth o symptomau canser y coluddyn, yn lleol ac yn genedlaethol.
Canser y coluddyn yw'r pedwerydd canser mwyaf cyffredin yng Nghymru, a'r ail fath o ganser o ran nifer y marwolaethau yn y DU. Mae tua 2,300 o bobl yn cael diagnosis bob blwyddyn, gyda’r rheiny’n arwain at dros 900 o farwolaethau.
Fodd bynnag, mae modd ei drin a'i wella yn enwedig os caiff y diagnosis ei wneud yn gynnar felly mae'n hanfodol ein bod yn cyfleu'r neges hon. Os ydych chi'n poeni o gwbl, mae'n hollbwysig eich bod yn gwneud rhywbeth yn ei gylch felly da chi, ewch i weld eich meddyg teulu.
Dangosodd arolwg diweddar gan Bowel Cancer UK nad yw pedwar o bob deg, 45%, o bobl yn y DU yn gallu enwi unrhyw symptomau sy’n gysylltiedig â’r ail ganser mwyaf yn y DU o ran nifer y marwolaethau.
Mae dynion yn llai tebygol o adnabod unrhyw symptomau canser y coluddyn. Nid yw dros hanner dynion y DU, 55%, yn gallu adnabod unrhyw arwyddion o ganser y coluddyn, o'i gymharu â 36% o fenywod. Mae hyn yn peri pryder gan fod mwy o ddynion na menywod yn cael diagnosis o ganser y coluddyn bob blwyddyn.
Ym mis Ebrill eleni, mae Bowel Cancer UK yn galw ar bawb i godi hyd yn oed mwy o ymwybyddiaeth a darparu cefnogaeth i bobl sydd wedi'u taro gan y clefyd. Maen nhw eisiau i leisiau mwy o bobl gael eu clywed er mwyn ysgogi newid cadarnhaol drwy hyrwyddo diagnosis cynnar ac ymgyrchu dros y driniaeth a'r gofal gorau.