Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has called for more support for rescue services in Wales.
Mr Rowlands, a keen supporter of the work of rescue teams across the country, called for a statement from the Welsh Government on outdoor safety.
He said:
The cross-party group for outdoor activities met on Friday, in Llanberis, which is the busiest mountain rescue station in the whole of the United Kingdom.
Last year they had over 300 call-outs, and they've already had more call-outs so far this year than the whole of last year put together. In their words, their service is not sustainable.
It's completely volunteer-run, with no Government funding whatsoever, with each call-out lasting, at times, hours, with lots of people involved, often dealing with traumatic and sometimes, sadly, tragic situations.
They say they're at breaking point. So, I'd like a statement outlining the Government's view on outdoor safety and, in particular, how it may be able to support rescue services here in Wales.
Jane Hutt, Trefnydd and Cabinet Secretary for Social Justice, said she understood health officials were engaged with mountain rescue about funding to support elements of their work in the future and there were ways the Welsh Government could reach out to support.
Mr Rowlands added:
I obviously welcome any news of funding and support which is desperately needed to keep these volunteer services running.
As I mentioned before, Llanberis is the busiest mountain rescue station in the UK and it is absolutely vital that funds are found to sustain this important service.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at bwysau cynyddol ar y gwasanaethau achub
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, wedi galw am fwy o gefnogaeth i wasanaethau achub yng Nghymru.
Galwodd Mr Rowlands, sy'n gefnogwr brwd o waith timau achub ar draws y wlad, am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ddiogelwch awyr agored.
Dywedodd:
Fe wnaeth y grŵp trawsbleidiol ar weithgareddau awyr agored gyfarfod ddydd Gwener, yn Llanberis, sef yr orsaf achub mynydd brysuraf yn y Deyrnas Unedig gyfan.
Y llynedd, fe gawson nhw dros 300 o alwadau am gymorth, ac maen nhw eisoes wedi cael mwy o alwadau am gymorth hyd yma eleni na thrwy gydol y llynedd at ei gilydd. Yn eu geiriau nhw, nid yw eu gwasanaeth yn gynaliadwy.
Mae'n cael ei gynnal yn llwyr gan wirfoddolwyr, heb unrhyw arian o gwbl gan y Llywodraeth, gyda phob galwad yn para, weithiau, am oriau, gyda llawer o bobl yn cymryd rhan, yn aml yn ymdrin â sefyllfaoedd trawmatig ac weithiau, yn anffodus, trasig.
Maen nhw'n dweud eu bod nhw wedi'u hymestyn i'r eithaf. Felly, hoffwn i gael datganiad yn amlinellu barn y Llywodraeth ar ddiogelwch yn yr awyr agored ac, yn benodol, sut y gallai gefnogi gwasanaethau achub yma yng Nghymru.
Dywedodd Jane Hutt, y Trefnydd ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ei bod yn deall bod swyddogion iechyd yn gweithio gyda thimau achub mynydd i ddod o hyd i gyllid i gefnogi elfennau o'u gwaith yn y dyfodol ac roedd yna ffyrdd y gallai Llywodraeth Cymru estyn allan i gefnogi.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Yn amlwg, rwy'n croesawu unrhyw newyddion am gyllid a chefnogaeth taer eu hangen i gynnal y gwasanaethau gwirfoddoli hyn.
Fel y soniais eisoes, Llanberis yw'r orsaf achub mynydd brysuraf yn y DU ac mae'n gwbl hanfodol bod arian ar gael i gynnal y gwasanaeth pwysig hwn.