Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing a call for more volunteers to boost medical research.
He is supporting a call from North Wales Clinical Research Facility, NWCRF, based at Wrexham Maelor Hospital, who are developing a secure database of volunteers and patients who are willing to be contacted about future research projects.
He said:
I am always pleased to highlight and promote any schemes which can help in the continued fight to develop cures for different illnesses.
The NWCRF is currently looking for volunteers and patients to sign up to take part in research projects which ultimately could help save lives.
Research is absolutely vital to find cures for illnesses and develop the right sort of treatment, you only have to look at how quickly the Covidvaccine was developed and that was thanks to many people taking part in different trials.
The database called Consent 4 Consent, C4C, is an internal secure database of patients and volunteers who wish to be considered as potential participants for research projects. Healthcare professionals from NWCRF will be the only people to have access to the information.
Dr Orod Osanlou, Director of NWCRF and Consultant in clinical pharmacology and therapeutics, internal medicine, said:
We are encouraging volunteers and patients to sign up to take part in our research projects. Nearly all research needs the help of volunteers in order to develop these procedures and find out whether they are effective.
Some studies will also compensate volunteers’ expenses for travel and inconvenience.
Since the research centre first opened the facility has conducted various national scale research projects including COVID-19 vaccine trials, booster studies and immunity research. The centre also collaborates with leading research organisations such as Public Health Wales, universities, and NHS University trusts.
Anyone who wishes to join the C4C database should contact the NWCRF research team via 03000 858032 or email [email protected].
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at yr angen am ragor o wirfoddolwyr i hybu ymchwil feddygol yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands AS, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi galwad am ragor o wirfoddolwyr i hybu ymchwil feddygol.
Mae'n cefnogi galwad gan Ganolfan Ymchwil Clinigol Gogledd Cymru, sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Maelor Wrecsam, sy'n datblygu cronfa ddata ddiogel o wirfoddolwyr a chleifion sy'n fodlon cael eu hystyried ar gyfer prosiectau ymchwil yn y dyfodol.
Meddai:
Rydw i bob amser yn falch o dynnu sylw at a hyrwyddo unrhyw gynlluniau a all helpu yn y frwydr barhaus i allu gwella gwahanol afiechydon.
Ar hyn o bryd mae Canolfan Ymchwil Clinigol Gogledd Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr a chleifion i gofrestru i gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil a allai, yn y pen draw, helpu i achub bywydau.
Mae ymchwil yn gwbl hanfodol i ganfod gwellhad ar gyfer afiechydon a datblygu'r math cywir o driniaeth - does ond rhaid i chi edrych ar ba mor gyflym y datblygwyd y brechlyn Covid pan gymerodd llawer o bobl ran mewn treialon gwahanol.
Mae'r gronfa ddata o'r enw Consent 4 Consent, C4C, yn gronfa ddata ddiogel fewnol o gleifion a gwirfoddolwyr sydd am gael eu hystyried fel cyfranogwyr posibl ar gyfer prosiectau ymchwil. Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o Gyfleuster Ymchwil Clinigol Gogledd Cymru fydd yr unig bobl fydd â mynediad at y wybodaeth.
Dywedodd Dr Orod Osanlou, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Clinigol Gogledd Cymru ac Ymgynghorydd ym maes ffarmacoleg glinigol a therapiwteg, meddygaeth fewnol:
Rydyn ni’n annog gwirfoddolwyr a chleifion i ymrwymo i gymryd rhan yn ein prosiectau ymchwil. Mae bron pob ymchwil angen help gwirfoddolwyr er mwyn datblygu'r triniaethau hyn a darganfod a ydyn nhw'n effeithiol.
Bydd rhai astudiaethau hefyd yn talu treuliau gwirfoddolwyr ar gyfer teithio ac anghyfleustra.
Ers i'r ganolfan ymchwil agor gyntaf mae wedi cynnal amryw o brosiectau ymchwil ar raddfa genedlaethol gan gynnwys treialon brechlyn COVID-19, astudiaethau ar y pigiad atgyfnerthu ac ymchwil imiwnedd. Mae'r ganolfan hefyd yn cydweithio gyda sefydliadau ymchwil blaenllaw fel Iechyd Cyhoeddus Cymru, prifysgolion, ac ymddiriedolaethau Prifysgol y GIG.
Dylai unrhyw un sy'n dymuno ymuno â chronfa ddata C4C gysylltu â thîm ymchwil y Ganolfan ar 03000 858032 neu e-bostio BCU. [email protected].