Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing a campaign to keep young farmers safe on their farms.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, and a keen supporter of the farming industry said:
I am a great supporter of the charity, Farm Safety Foundation, also known as the Yellow Wellies, who are working hard to raise awareness of the poor safety record on farms.
It is quite alarming to hear the figures for the high number of deaths in the agricultural sector and it is good to see the charity highlighting this problem.
We all know how hard working our farmers are and I fully support any campaign to make sure they keep themselves safe.
The Farm Safety Foundation, or Yellow Wellies as they are also known, are an independent registered charity working throughout the UK to address the attitudes and behaviours to risk-taking and poor mental health in the next generation of farmers, under 40 years.
Farming accounts for 1% of the working population but an alarming 16% of all workplace deaths according to the HSE Fatal Injuries in Agriculture, Forestry & Fishing Report in GB 2022/2023, a total of 21 farm workers and 6 members of the public, including a child, lost their lives on GB farms over the past year.
The Foundation aims to preserve and protect the physical and mental wellbeing of young farmers and young people moving in to agriculture, aged 16-40; challenge and change the attitudes towards risk-taking and poor safety behaviours in the next generation of farmers and reduce the number of life changing and life ending injuries among young farmers.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at yr angen i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch fferm
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi ymgyrch i gadw ffermwyr ifanc yn ddiogel ar eu ffermydd.
Dywedodd Mr Rowlands, sy’n Weinidog yr Wrthblaid ar Lywodraeth Leol i’r Ceidwadwyr Cymreig, ac sydd hefyd yn un o gefnogwyr brwd y diwydiant ffermio:
Rwy'n gefnogwr brwd o'r elusen, Farm Safety Foundation, a elwir hefyd yn Yellow Wellies, sy'n gweithio'n galed i godi ymwybyddiaeth o'r hanes o ddiogelwch gwael ar ffermydd.
Mae'n frawychus clywed y ffigyrau ar gyfer y nifer uchel o farwolaethau yn y sector amaethyddol ac mae'n dda gweld yr elusen yn amlygu'r broblem hon.
Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor galed mae ein ffermwyr yn gweithio ac rwy'n cefnogi unrhyw ymgyrch i sicrhau eu bod yn cadw eu hunain yn ddiogel.
Mae'r Farm Safety Foundation, neu Yellow Wellies, fel y'i gelwir hefyd, yn elusen gofrestredig annibynnol sy'n gweithio ledled y DU i fynd i'r afael â'r agweddau a'r ymddygiadau ynghlwm wrth gymryd risg ac iechyd meddwl gwael yn y genhedlaeth nesaf o ffermwyr, o dan 40 oed.
Mae ffermio yn cyfrif am 1% o'r boblogaeth sy'n gweithio, ond yn ôl Adroddiad Anafiadau Angheuol mewn Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Physgota yn y DU 2022/2023 gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, mae 16% o farwolaethau yn y gweithle yn digwydd yn y byd amaeth. Mae hyn yn golygu bod cyfanswm o 21 o weithwyr fferm a 6 aelod o'r cyhoedd, gan gynnwys un plentyn, wedi colli eu bywydau ar ffermydd Prydain yn ystod y flwyddyn.
Nod y Sefydliad yw diogelu lles corfforol a meddyliol ffermwyr ifanc a phobl ifanc 16-40 oed sy'n symud i’r byd amaeth; herio a newid agweddau tuag at ymddygiadau mentro a diogelwch gwael yn y genhedlaeth nesaf o ffermwyr a lleihau nifer yr anafiadau sy'n newid bywydau a lladd ffermwyr ifanc.