Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has once again called for Welsh Government to be properly scrutinised over their handling of the Covid-19 pandemic.
Mr Rowlands was speaking after meeting members of the Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru group at the Senedd.
He said:
It was very moving to meet with members of the Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru group in the Welsh Parliament.
Yesterday, March 23, marked the third anniversary of the first Covid – 19 lockdown in a National Day of Reflection and it is a sad fact that Wales had the highest Covid-19 death rate per 100,000 people across the United Kingdom.
Specific inquiries are being held into the handling of Covid-19 in England, Scotland and Northern Ireland but not here in Wales.
I believe it is only right that the actions of the Welsh Government during the pandemic are properly scrutinised and communicated to the people of Wales. It is vital that we have an inquiry and these families have justice.
The Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru met members of the Welsh Parliament in the Senedd building to give them an update on their recent work.
A UK-wide inquiry into the handling of the Covid pandemic is due to start shortly. The Senedd narrowly voted against a motion calling for the Welsh Government to commission an inquiry in December 2021.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at yr angen am ymchwiliad penodol i'r modd y deliodd Cymru â'r pandemig
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi galw unwaith eto am graffu’n briodol ar y ffordd yr aeth Llywodraeth Cymru i’r afael â’r pandemig Covid-19.
Roedd Mr Rowlands yn siarad ar ôl cwrdd ag aelodau o grŵp Llais y Rhai Gollodd Anwyliaid Cymru yn y Senedd.
Meddai:
Roedd hi’n emosiynol iawn cyfarfod ag aelodau o grŵp Llais y Rhai Gollodd Anwyliaid Cymru yn y Senedd.
Ddoe, 23 Mawrth, nodwyd trydydd pen-blwydd cyfnod clo Covid-19 mewn Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod ac mae'n ffaith drist mai Cymru oedd â'r gyfradd farwolaeth Covid-19 uchaf fesul 100,000 o bobl ledled y Deyrnas Unedig.
Mae ymchwiliadau penodol yn cael eu cynnal i'r modd y deliwyd â Covid-19 yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond nid yma yng Nghymru.
Rwy'n credu ei bod ond yn iawn bod gweithredoedd Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig yn cael eu harchwilio’n briodol a’u cyfathrebu i bobl Cymru. Mae'n hanfodol ein bod yn cael ymchwiliad a bod gan y teuluoedd hyn gyfiawnder.
Bu’r grŵp Llais y Rhai Gollodd Anwyliaid Cymru yn cwrdd ag aelodau o’r Senedd yn adeilad y Senedd i roi diweddariad iddyn nhw am eu gwaith diweddar.
Mae disgwyl i ymchwiliad ledled y DU i'r ffordd y deliwyd â’r pandemig Covid ddechrau yn fuan. Pleidleisiodd y Senedd o drwch blewyn yn erbyn cynnig a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad ym mis Rhagfyr 2021.