Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed a new app which offers pregnant women nutritional and physical activity advice
He said:
I am delighted to promote this, first of its kind app, which will help support pregnant women in North Wales.
The ’Foodwise in Pregnancy’ app will offer information from NHS professionals including meal planning and suitable exercises for pregnant women.
It is great to see something like this being developed in North Wales in conjunction with Public Health Wales.
The app includes six sections to work through at their own pace with recipes, shopping tips and a meal planner, as well as step-by-step exercises ideal for pregnancy. It also allows people to set goals throughout their pregnancy, record food and exercise activity, and includes interactive games, quizzes, and tools.
Public Health Dietitian Andrea Basu and the Health Board’s dietetic have been working with Nutrition Skills for Life, which is an organisation made up of dietitians and nutritionists from Health Boards across Wales, to help plan, develop and review content for the app.
The app’s release responds to Insight research work within North Wales, led by Public Health Wales which highlighted that both expectant women and midwives would value an app to enable quick and easy access to current information on key topics like food and nutrition.
The Foodwise In Pregnancy app is free to download from Google Play or Apple Store and you can find more information on their website.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at ap newydd i helpu i gefnogi menywod beichiog yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi croesawu ap newydd sy’n cynnig cyngor ar faeth ac ymarfer corff i fenywod beichiog.
Meddai:
Rwy’n falch o hyrwyddo hwn, yr ap cyntaf o’i fath, a fydd yn helpu i gefnogi menywod beichiog yn y Gogledd.
Bydd ap ’Foodwise in Pregnancy’ yn cynnig gwybodaeth gan weithwyr proffesiynol y GIG yn cynnwys cyngor ar gynllunio prydau ac ymarferion addas i fenywod beichiog.
Mae’n wych gweld rhywbeth fel hyn yn cael ei ddatblygu yn y Gogledd ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae’r ap yn cynnwys chwe adran i fenywod weithio trwyddynt wrth eu pwysau gyda ryseitiau, awgrymiadau siopa a chynllunydd prydau, yn ogystal ag ymarferion cam wrth gam sy’n ddelfrydol ar gyfer beichiogrwydd. Mae hefyd yn galluogi pobl i bennu nodau gydol eu beichiogrwydd, cofnodi bwyd ac ymarfer corff, ac mae’n cynnwys gemau rhyngweithiol, cwisiau ac adnoddau.
Mae’r Deietegydd Iechyd Cyhoeddus, Andrea Basu, a chydweithwyr deieteteg y Bwrdd Iechyd wedi bod yn gweithio gyda Nutrition Skills for Life, sefydliad o ddeietegwyr a maethegwyr o Fyrddau Iechyd ledled Cymru, i helpu i gynllunio, datblygu ac adolygu cynnwys ar gyfer yr ap.
Mae rhyddhau’r ap yn ymateb i waith ymchwil Insight yn y Gogledd, dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru, a ddangosodd y byddai menywod beichiog a bydwragedd yn gwerthfawrogi cael ap i alluogi mynediad cyflym a hawdd at wybodaeth gyfredol ar bynciau allweddol fel bwyd a maeth.
Mae ap Foodwise In Pregnancy ar gael i’w lawrlwytho am ddim o Google Play neu Apple Store a gallwch gael mwy o wybodaeth ar eu gwefan.