Sam Rowlands Member of the Welsh Parliament for North Wales and Shadow Minister for Local Government recently chaired a meeting to discuss the importance of nuclear energy.
He said:
I was delighted to sit round the table and talk about the future opportunities for nuclear energy in my region with my colleagues, Mark Isherwood, North Wales MS, Virginia Crosbie, Ynys Môn MP and leading figures from industry.
It was good to discuss the future of nuclear energy and what opportunities there are for my region.
We have a fantastic opportunity to build on what we already have here in North Wales, with the future of Wylfa nuclear power station on Anglesey and the former Trawsyfynydd site, near Blaenau Ffestiniog in Gwynedd, hopefully in line for future use.
There are clearly great opportunities for North Wales as the supply chain and skills impact of new nuclear projects are huge and I would welcome any investment across North Wales in terms of job opportunities.
I recently had the opportunity, along with Virginia Crosbie, Virginia Crosbie, MP for Ynys Môn, to visit Wylfa nuclear power station and to hear about the possible positive plans for its future.
At the moment the plant is undergoing decommissioning but the UK Government has indicated in its British Energy Security Strategy that Wylfa could be given a new lease of life.
There is also a possibility that the decommissioned site at Trawsfynydd could be utilised to house a small modular reactor, both would be so good for North Wales.
Virginia Crosbie, MP for Ynys Môn said:
Nuclear energy is a vital component in bringing jobs and investment to North Wales.
It is also of huge importance to the UK’s energy security – something that is high on the agenda due to Putin’s war.
I was delighted to attend this round table and see clearly how enthusiastic my Welsh Conservative Senedd colleagues are about the opportunities that stand before us.
I will not stop working with them, with our community and with the UK government until we see spades in the ground at Wylfa.
Wylfa nuclear power station is situated west of Cemaes Bay on Anglesey off the coast of North Wales and was constructed in 1963.
Earlier this year the UK Government indicated that its Energy Security Strategy would see a significant acceleration of nuclear, with small modular reactors forming a key part of the nuclear project pipeline, and Wylfa along with Trawsfynydd, in Gwynedd were tipped as possible sites.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at gyfleoedd ynni niwclear yng Nghymru
Yn ddiweddar bu Sam Rowlands Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru a Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol yn cadeirio cyfarfod i drafod pwysigrwydd ynni niwclear.
Meddai:
Roeddwn i wrth fy modd yn eistedd o amgylch y bwrdd ac yn siarad am gyfleoedd ynni niwclear yn y dyfodol yn fy rhanbarth gyda’m cydweithwyr, Mark Isherwood Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru, Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ynys Môn a ffigurau blaenllaw o fyd diwydiant.
Roedd yn dda cael trafod dyfodol ynni niwclear a pha gyfleoedd sydd ar gael i'm rhanbarth.
Mae gennym ni gyfle gwych i adeiladu ar yr hyn sydd gennym eisoes yma yn y Gogledd, gyda’r gobaith y bydd atomfa'r Wylfa ar Ynys Môn a safle blaenorol Trawsfynydd, ger Blaenau Ffestiniog yng Ngwynedd, yn cael eu defnyddio yn y dyfodol.
Does dim dwywaith bod cyfleoedd gwych i'r Gogledd gan fod effaith prosiectau niwclear newydd ar y gadwyn gyflenwi a sgiliau yn enfawr a byddwn i'n croesawu unrhyw fuddsoddiad ar hyd a lled y Gogledd o ran cyfleoedd gwaith.
Cefais gyfle yn ddiweddar, ynghyd â Virginia Crosbie, AS Ynys Môn, i ymweld ag atomfa'r Wylfa a chlywed am y cynlluniau cadarnhaol posibl ar gyfer ei dyfodol.
Ar hyn o bryd mae'r atomfa’n cael ei datgomisiynu ond mae Llywodraeth y DU wedi dweud yn Strategaeth Diogelu Ynni'r DU y gallai'r Wylfa gael hwb o'r newydd.
Mae posibilrwydd hefyd y gallai'r safle yn Nhrawsfynydd sydd wedi'i ddatgomisiynu gael ei ddefnyddio fel cartref ar gyfer adweithydd modwlar bychan, ac y byddai'r ddau yn dda iawn i'r Gogledd.
Dywedodd Virginia Crosbie, AS Ynys Môn:
Mae ynni niwclear yn elfen hanfodol o ddod â swyddi a buddsoddiad i'r Gogledd.
Mae'n bwysig iawn i ddiogelwch ynni'r DU hefyd – rhywbeth sy'n uchel ar yr agenda oherwydd rhyfel Putin.
Roeddwn wrth fy modd yn mynychu'r bwrdd crwn hwn a gweld yn glir pa mor frwdfrydig yw fy nghydweithwyr yn y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, am y cyfleoedd sydd o'n blaenau.
Byddaf yn parhau i gydweithio â nhw, ein cymuned a llywodraeth y DU nes y bydd y rhawiau i'w gweld yn y ddaear yn yr Wylfa.”
Mae atomfa'r Wylfa i'r gorllewin o Fae Cemaes ar Ynys Môn oddi ar arfordir y Gogledd ac fe'i hadeiladwyd ym 1963.
Yn gynharach eleni, nododd Llywodraeth y DU y byddai ei Strategaeth Diogelu Ynni yn gweld ynni niwclear yn cyflymu'n sylweddol, gydag adweithyddion modwlar bach yn ffurfio rhan allweddol o biblinell y prosiect niwclear, ac enwyd yr Wylfa ynghyd â Thrawsfynydd, yng Ngwynedd fel safleoedd posibl.