Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging children and eligible adults to get a free flu vaccine.
From today, Monday January 16, Betsi Cadwaladr University Health Board has opened mass vaccination centres all over the region in a bid to halt the circulation of flu which has led to hundreds of patients being admitted to hospital.
Mr Rowlands, who has a flu jab every year, said:
I welcome this mass vaccination of the flu jab and urge eligible people to take advantage of this opportunity to ensure they protect themselves and others.
It is very disturbing to hear that hundreds of people are being admitted to hospital with flu which puts even more pressure on our hardworking NHS staff.
More than ever people are very aware of the dangers of respiratory viral infection and vaccination is the best way to protect yourself and others around you against flu.
Flu is bad enough on its own but for anyone who is unfortunate to catch both flu and Covid, the consequences could be very severe indeed. It is vital as many people as possible get protected, particularly those who are most vulnerable. Not only does this protect the individual but also protects our Welsh NHS.
Betsi Cadwaladr immunisations coordinator Leigh Pusey said:
If you are in a priority group then getting your flu vaccine is crucial, and it’s so important to protect our children too.
Please help to keep yourself and your loved ones well by making sure you take up the opportunity to get the flu vaccine – at your GP surgery, your local community pharmacist or at one of the health board’s vaccination centres.
Vaccination centres will hold dedicated walk-in clinics for children on set dates. More information about eligibility, clinic dates and times, and how you can get a flu vaccine is available here.
Free painless nasal spray flu vaccines are available for all children aged two and three (age on August 31 2022) and all school children from Reception to Year 11.
Adults aged 50 and over, plus priority high-risk groups including pregnant women, health workers, carers, and people with underlying health conditions are also eligible for the flu vaccine.
Read more on the health board’s website.
Sam Rowlands AS yn rhoi sylw i agor canolfannau brechu torfol yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog plant ac oedolion cymwys i gael brechlyn ffliw am ddim.
O heddiw, ddydd Llun 16 Ionawr ymlaen, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi agor canolfannau brechu torfol ar hyd a lled y rhanbarth mewn ymgais i atal achosion o'r ffliw sydd wedi arwain at dderbyn cannoedd o gleifion i'r ysbyty.
Dywedodd Mr Rowlands, sy'n cael pigiad ffliw bob blwyddyn:
Dwi'n croesawu'r cynllun brechu torfol hwn ar gyfer y ffliw ac yn annog pobl gymwys i fanteisio ar y cyfle i sicrhau eu bod nhw'n amddiffyn eu hunain ac eraill.
Mae'n bryderus iawn clywed bod cannoedd o bobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty gyda'r ffliw, gan roi mwy fyth o bwysau ar ein staff gweithgar yn y GIG.
Mae mwy nag erioed o bobl yn ymwybodol iawn o beryglon haint feirysol anadlol a brechu yw'r ffordd orau o ddiogelu chi'ch hun ac eraill o'ch cwmpas rhag y ffliw.
Mae'r ffliw yn ddigon drwg ar ei ben ei hun, ond i unrhyw un sy'n ddigon anffodus i ddal y ffliw a Covid gyda'i gilydd, fe allai'r canlyniadau fod yn ddifrifol iawn. Mae'n hanfodol bod cymaint â phosib yn cael eu diogelu, yn enwedig y rhai mwyaf bregus. Mae hyn nid yn unig yn amddiffyn yr unigolyn ond hefyd yn amddiffyn ein GIG yng Nghymru.
Meddai Leigh Pusey, cydlynydd imiwneiddio Betsi Cadwaladr:
Os ydych chi yn y grŵp blaenoriaeth, yna mae'r brechlyn ffliw yn gwbl hanfodol, ac mae mor bwysig amddiffyn ein plant hefyd.
Helpwch i gadw chi'ch hun a'ch anwyliaid yn holliach trwy sicrhau eich bod yn manteisio ar y cyfle i gael y brechlyn ffliw - yn eich meddygfa, eich fferyllydd cymunedol lleol neu yn un o ganolfannau brechu'r bwrdd iechyd.
Bydd canolfannau brechu yn cynnal clinigau cerdded-i-mewn penodol i blant ar ddyddiadau penodol. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch pwy sy'n gymwys, dyddiadau ac amseroedd clinigau, a sut allwch chi gael y brechlyn ffliw ar gael yma.
Mae brechlynnau ffliw di-boen sy’n cael ei chwistrellu i fyny'r trwyn ar gael am ddim i bob plentyn 2 a 3 oed (oedran ar 31 Awst 2022) a phob plentyn ysgol o oedran Derbyn i Flwyddyn 11.
Mae oedolion 50 oed a hŷn, ynghyd â grwpiau risg uchel â blaenoriaeth gan gynnwys menywod beichiog, gweithwyr iechyd, gofalwyr, a phobl sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol hefyd yn gymwys i gael y brechlyn ffliw.
Darllenwch fwy ar wefan y bwrdd iechyd.