Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on the Welsh Government to make sure more funding is available to help cash strapped councils fix potholes.
Speaking in the Senedd, Mr Rowlands asked for a statement from the Cabinet Secretary for transport on council funding for road maintenance and potholes.
Earlier this year it was revealed that Wrexham was named among the worst cities in the UK when it comes to potholes.
Mr Rowlands said:
Last week, the Chancellor made an announcement there will be £500 million extra being made available for local road maintenance in England. Of course, I expect there to be a consequence of the £500 million through to Wales.
Councils, I'm sure, will be expecting to see that money come through to them to enable them to deliver on those road maintenance and pothole issues.
I've been made aware by many residents, in Wrexham in particular, who are suffering significant issues due to the potholes in that part of the world. I know they would welcome investment by the local authority in those potholes being dealt with.
I'd like confirmation from the Cabinet Secretary that consequential funding will come through to deal with these issues, and that that money will pass through to local authorities to tackle these issues.
Jane Hutt, Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip, said it was up to the Government to decide how they were going to allocate those consequentials. The draft budget, was being prepared and it will then come to all committees for scrutiny.
Mr Rowlands added:
I do hope that we in Wales will see the benefit of this extra money being provided by the Chancellor and money will be made available to help our cash strapped councils maintain roads and potholes.
Wrexham Council are well aware of the problems across the county and despite financial constraints are doing their best to deal with the problems. Extra funding is desperately needed to make sure we have roads that are safe for us all to use.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at broblemau gyda thyllau yn y ffyrdd yn Wrecsam
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod mwy o gyllid ar gael i helpu cynghorau sy’n brin o arian i drwsio tyllau mewn ffyrdd.
Wrth siarad yn y Senedd, gofynnodd Mr Rowlands am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth ar gyllid cynghorau ar gyfer cynnal a chadw ffyrdd a llenwi tyllau.
Yn gynharach eleni datgelwyd bod Wrecsam wedi'i henwi ymhlith dinasoedd gwaethaf y DU o ran tyllau ffyrdd yn y DU.
Meddai Mr Rowlands:
Fe fyddwch chi’n ymwybodol, yr wythnos diwethaf, fod y Canghellor wedi cyhoeddi y bydd £500 miliwn ychwanegol ar gael ar gyfer cynnal a chadw ffyrdd lleol yn Lloegr. Wrth gwrs, rwy'n disgwyl y bydd swm canlyniadol o'r £500 miliwn yn dod i Gymru..
Bydd cynghorau, rwy'n siŵr, yn disgwyl gweld yr arian hwnnw'n dod iddyn nhw i'w galluogi i gyflawni ar y materion hynny sy'n ymwneud â chynnal a chadw'r ffyrdd ac ymdrin â thyllau yn y ffyrdd.
Rwyf wedi cael gwybod gan lawer o drigolion, yn Wrecsam yn arbennig, sy'n dioddef problemau sylweddol oherwydd tyllau yn y ffyrdd yn y rhan honno o'r byd. Rwy'n gwybod y bydden nhw'n croesawu buddsoddiad gan yr awdurdod lleol i ymdrin â'r tyllau hynny.
Hoffwn gael cadarnhad gan yr Ysgrifennydd Cabinet y bydd cyllid canlyniadol yn dod i ymdrin â'r materion hyn, ac y bydd yr arian hwnnw'n cael ei drosglwyddo i awdurdodau lleol i allu mynd i'r afael â'r materion hyn.
Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, mai mater i'r Llywodraeth oedd penderfynu sut byddan nhw’n dyrannu'r symiau canlyniadol hynny. Roedd y gyllideb ddrafft yn cael ei pharatoi ac yna bydd pob pwyllgor yn cael cyfle i graffu arni.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Rwy'n gobeithio y byddwn ni yng Nghymru yn gweld budd yr arian ychwanegol hwn sy'n cael ei ddarparu gan y Canghellor a bydd arian ar gael i helpu ein cynghorau i gynnal ffyrdd ac atgyweirio tyllau pan fo arian yn brin.
Mae Cyngor Wrecsam yn ymwybodol iawn o'r problemau ar draws y sir ac er gwaethaf cyfyngiadau ariannol maen nhw'n gwneud eu gorau i ddelio â'r problemau. Mae gwir angen cyllid ychwanegol i sicrhau bod gennym ffyrdd sy'n ddiogel i bob un ohonom ni eu defnyddio.