Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging the public to have their say on the creation of woodland areas across Denbighshire
He said:
I am delighted to see Denbighshire County Council seeking the views from residents. It is vitally important everyone is given the chance to have their say on what they think about the creation of theses wooded spaces.
Local authorities have a responsibility to put plans in place to enhance local biodiversity and I am pleased to hear about this latest initiative which is all about encouraging natural habitats and making our communities a nicer place to live.
It is so important to make sure we have areas where we can all be closer to nature and feed on its benefits.
It is also great to hear that Conwy County Borough Council have nearly finished their urban tree planting project in Llandudno. The final stage will see Lloyd Street, in the town centre, lined with trees and so returning to its historic tree lined appearance.
Both councils should be congratulated for these initiatives which ultimately help to improve local biodiversity and encourage more interest in nature.
Denbighshire County Council has launched a public engagement to help support the creation of woodland areas at Ffordd Parc Bodnant in Prestatyn, Dol Corwenna in Corwen and the former tip site at Henllan.
The survey runs from November 7 until November 21 and will seek the views of residents regarding the creation of the three new sites.
For more information go to https://www.denbighshire.gov.uk/en/news/news-detail.aspx?article=6ede2ffb-05c8-4bda-899c-a5366f5e5938
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at brosiectau yng Nghonwy a Sir Ddinbych sy’n gwneud ein cymunedau yn lleoedd brafiach i fyw ynddyn nhw
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog y cyhoedd i gael dweud eu dweud ar greu coetiroedd ledled Sir Ddinbych.
Meddai:
Rwy’n falch iawn o weld Cyngor Sir Ddinbych yn gofyn am farn preswylwyr. Mae’n hollbwysig bod pawb yn cael cyfle i ddweud eu dweud ar yr hyn maen nhw’n ei feddwl am greu’r mannau coediog hyn.
Mae gan Awdurdodau Lleol gyfrifoldeb i roi cynlluniau ar waith i wella bioamrywiaeth yn lleol ac rwy’n falch clywed am y fenter ddiweddaraf hon sy’n annog cynefinoedd naturiol ac yn gwneud ein cymunedau yn lleoedd brafiach i fyw ynddyn nhw.
Mae mor bwysig sicrhau fod gennym lecynnau ble gallwn fod yn agosach at natur a gwneud y gorau o’r hyn y mae’n ei gynnig.
Mae hefyd yn wych clywed bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy bron a gorffen eu prosiect plannu coed mewn ardal drefol yn Llandudno. Bydd y cyfnod terfynol yn gweld Stryd Lloyd, yng nghanol y dref, yn dychwelyd i fod yn stryd gyda rhes o goed ar ei hyd, fel roedd hi’n arfer bod.
Dylid llongyfarch y ddau gyngor am y mentrau hyn a fydd yn helpu i wella bioamrywiaeth yn lleol yn y pen draw ac yn annog mwy o ddiddordeb mewn natur.
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi lansio ymgyrch ymgysylltu â’r cyhoedd er mwyn helpu i greu ardaloedd coetir yn Ffordd Parc Bodnant ym Mhrestatyn, Dol Corwenna yng Nghorwen a safle’r hen domen yn Henllan.
Cynhelir yr arolwg rhwng 7 Tachwedd a 21 Tachwedd a bydd yn gofyn am farn preswylwyr ynghylch creu tri safle newydd.
Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.denbighshire.gov.uk/cy/newyddion/manylion-newyddion.aspx?article=6ede2ffb-05c8-4bda-899c-a5366f5e5938