Sam Rowlands MS for North Wales has praised volunteers for helping collect over 1,000 acorns in a day.
Mr Rowlands, Conservative member of the Welsh Parliament, was commenting after Denbighshire County Council’s biodiversity team, recently led a seed gathering day near their tree nursery in St Asaph.
He said:
I was delighted to hear about Denbighshire County Council’s latest initiative to improve its biodiversity and congratulations should go to everyone who volunteered to help on the day.
We all need to do our bit to help with the local environment and it is great to see so many volunteers getting involved and collecting 1,200 acorns.
Local authorities have a responsibility to put a plan in place to enhance its biodiversity and it is good to see initiatives like this being organised and involving the public.
Denbighshire County Council’s Biodiversity team recently led a seed collecting day local to the Council Tree Nursery based at St Asaph.
Representatives from the Council were joined by the Wildlife Trust, Cofnod and a group of volunteers to collect acorns from local veteran oak trees.
Over 1,200 acorns were collected and taken back to the Council’s Tree Nursery at St Asaph and potted to grow at the site before been distributed into Denbighshire’s biodiversity.
During the seed gathering day, those taking part also helped record the species and measurements of trees which will be added to the Woodland Trust’s Ancient Tree Inventory as veteran trees, many of which are several hundred years old.
The details were also added to a custom made monitoring app designed by the biodiversity team which will allow them to know the origin of every tree grown to help track from seed to final planting location.
Sam Rowlands AS yn hyrwyddo diwrnod casglu hadau ger planhigfa goed yn Sir Ddinbych
Mae Sam Rowlands, yr AS dros Ogledd Cymru, wedi canmol gwirfoddolwyr am helpu i gasglu dros 1,000 o fes y dydd.
Roedd Mr Rowlands, sy’n Aelod Ceidwadol o’r Senedd, yn rhoi ei sylwadau ar ôl i dîm bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych gynnal diwrnod casglu hadau yn ddiweddar ger eu planhigfa goed yn Llanelwy.
Meddai:
Roeddwn i’n falch iawn o glywed am fenter ddiweddaraf Cyngor Sir Ddinbych i wella ei fioamrywiaeth a llongyfarchiadau i bawb a wirfoddolodd i helpu ar y diwrnod.
Mae angen i bawb gwneud eu rhan dros yr amgylchedd lleol ac mae’n braf gweld cymaint o wirfoddolwyr yn cymryd rhan ac yn casglu 1,200 o fes.
Mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb i roi cynllun ar waith i wella eu bioamrywiaeth a da o beth yw gweld mentrau fel hyn yn cael eu trefnu ac yn cynnwys y cyhoedd.
Cynhaliodd tîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych ddiwrnod casglu hadau yn ddiweddar yn agos at Blanhigfa Goed y Cyngor yn Llanelwy.
Ymunodd yr Ymddiriedolaeth Natur, Cofnod a grŵp o wirfoddolwyr â chynrychiolwyr o’r Cyngor i gasglu mes o hen goed derw lleol.
Casglwyd dros 1,200 o fes ac aed â nhw i Blanhigfa Goed y Cyngor yn Llanelwy a’u rhoi mewn potiau i dyfu ar y safle cyn eu dosbarthu i fioamrywiaeth Sir Ddinbych.
Yn ystod y diwrnod casglu hadau, helpodd y rhai a oedd yn cymryd rhan i gofnodi’r rhywogaethau a mesuriadau’r coed a fydd yn cael eu hychwanegu at Restr Coed Hynafol yr Ymddiriedolaeth Natur fel coed hynod, gyda llawer yn gannoedd o flynyddoedd oed.
Ychwanegwyd y manylion hefyd at ap monitro pwrpasol a luniwyd gan y tîm bioamrywiaeth a fydd yn eu galluogi i wybod tarddiad pob coeden sy’n tyfu, gan eu helpu i’w holrhain o’r cyfnod hadu i’r lleoliad plannu terfynol.