Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, calls on Welsh speakers, wanting to become swimming teachers in Wrexham, to apply for the role.
He said:
This is a wonderful opportunity for anyone interested in getting involved in the sport and leisure industry and help with health and fitness in the community.
Recently the lack of Welsh speaking swimming teachers in the Wrexham area, was highlighted in the news and I am pleased to see this being addressed.
With free training and the chance to earn up to £16 an hour then it is well worth applying.
Freedom Leisure are seeking Welsh speakers with a passion for swimming and teaching to join their successful team of swimming teachers based at Waterworld, Wrexham.
You will be part of the swim school team, teaching either in a group or individual lessons and you must be able to communicate and deliver a swimming lesson in Welsh.
If you are over 18, an outgoing and approachable individual who loves to interact with people, then for more details click on the link.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at swyddi gwag i athrawon nofio Cymraeg eu hiaith
Mae Sam Rowlands, Aelod o'r Senedd dros y Gogledd, yn galw ar siaradwyr Cymraeg sydd am fod yn athrawon nofio yn Wrecsam, i wneud cais am y swydd.
Meddai:
Dyma gyfle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y diwydiant chwaraeon a hamdden a helpu gydag iechyd a ffitrwydd yn y gymuned.
Yn ddiweddar daeth diffyg athrawon nofio Cymraeg eu hiaith yn ardal Wrecsam i’r amlwg yn y newyddion a dwi'n falch o weld hyn yn cael sylw.
Gyda hyfforddiant am ddim a'r cyfle i ennill hyd at £16 yr awr, mae'n werth gwneud cais.
Mae Freedom Leisure yn chwilio am siaradwyr Cymraeg sy'n frwd dros nofio ac addysgu i ymuno â'u tîm llwyddiannus o athrawon nofio ym mhwll Waterworld, Wrecsam.
Byddwch yn rhan o'r tîm ysgol nofio, yn addysgu naill ai mewn grŵp neu wersi unigol, a rhaid i chi allu cyfathrebu a chyflwyno gwers nofio yn y Gymraeg.
Os ydych chi dros 18 oed, ac yn unigolyn hyderus, agos-atoch sy'n hoff o ryngweithio â phobl, yna ewch i'r ddolen am fwy o fanylion.