Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging interested constituents to sign up to become a volunteer at the Archive centre in Ruthin.
Mr Rowlands is backing a call from North East Wales Archives, NEWA, who are currently looking for people to join their volunteer group.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and who has a keen interested in local history said:
This is a wonderful opportunity for those people who have a bit of time on their hands and have an interest in the past to learn more about the work which is carried out in the archive.
It is an excellent way of finding out more about the local area and to meet other people who share that interest.
I think it is well worth considering and would also look great on your CV.
Through volunteering at NEWA, volunteers can learn new skills, expand their CVs, gain work experience and local knowledge.
Volunteering and working in archives can sometimes be a solitary job simply due to the nature of the work. On selected Tuesdays, two sessions a month, the volunteer group meets for up to three hours between 9.30am and 12.30pm at the Archives in Ruthin.
The current project involves working through uncatalogued council files which cover many aspects of the council's responsibility during the nineteenth and twentieth centuries, including:
- Road and rail developments and improvements.
- Building and planning of new schools, residential sites and police houses.
- County council reorganisation.
- Civil defence and war provision.
- Local election papers.
- Public health and welfare.
- Tourism and events.
For more information visit the North East Wales Archives website.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at gyfleoedd gwirfoddoli yn y Gogledd-ddwyrain
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog etholwyr sydd â diddordeb i gofrestru i fod yn wirfoddolwr yn y ganolfan archifau yn Rhuthun.
Mae Mr Rowlands yn cefnogi’r alwad gan Archifdy Gogledd Ddwyrain Cymru, NEWA, sydd ar hyn o bryd yn chwilio am bobl i ymuno â'u grŵp gwirfoddol.
Meddai Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid ac sydd â diddordeb brwd mewn hanes lleol:
Dyma gyfle gwych i'r bobl hynny sydd ag ychydig o amser ar eu dwylo ac sydd â diddordeb yn y gorffennol i ddysgu mwy am y gwaith sy'n cael ei wneud yn yr archif.
Mae'n ffordd wych o ddarganfod mwy am yr ardal leol a chwrdd â phobl eraill sy'n rhannu'r diddordeb hwnnw.
Mae’n sicr yn gynnig gwerth ei ystyried a byddai'n edrych yn wych ar eich CV hefyd.
Trwy wirfoddoli yn NEWA, gall gwirfoddolwyr ddysgu sgiliau newydd, ehangu eu CV, ennill profiad gwaith a gwybodaeth leol.
O bryd i’w gilydd gall gwirfoddoli a gweithio mewn archifau fod yn waith a wneir gan rywun ar ei ben ei hun, a hynny’n syml oherwydd natur y gwaith. Ar ddyddiau Mawrth penodol, dwy sesiwn y mis, mae'r grŵp o wirfoddolwyr yn cyfarfod am hyd at dair awr rhwng 9.30am a 12.30pm yn yr Archifau yn Rhuthun.
Mae'r prosiect presennol yn cynnwys gweithio drwy ffeiliau’r cyngor heb eu catalogio sy'n ymdrin â sawl agwedd ar gyfrifoldeb y cyngor yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif, gan gynnwys:
- Datblygiadau a gwelliannau ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd.
- Adeiladu a chynllunio ysgolion newydd, safleoedd preswyl a thai heddlu.
- Ad-drefnu'r cyngor sir.
- Amddiffyn sifil a darpariaeth rhyfel.
- Papurau etholiadau lleol.
- Iechyd a lles y cyhoedd.
- Twristiaeth a digwyddiadau.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru.