Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed a new volunteering scheme to help young people.
Mr Rowlands, a keen supporter of the work of the Wales Air Ambulance said:
I was delighted to hear about the launch of this fantastic scheme which will give a vital boost to young volunteers looking for work.
It really is an excellent idea and will be a real advantage to any young person under 25 who will be able to show what they have been doing while looking for a job.
Thanks should also go to the Principality Building Society who are supporting this ‘future flyers’ scheme with a grant.
I am a great supporter of Wales Air Ambulance, a charity, which carries out vital work across Wales and helps save hundreds of lives and deserves all our support.
The two new volunteering opportunities, which includes a project in Swansea, intend to give the volunteers, aged under 25, a chance to sign up to the scheme and see them all given a ‘future flyers’ pack.
The pack contains a logbook, where volunteers can record hours served, countersigned by their supervisor. The volunteers will also complete an online course covering matters including financial planning, CV writing and career planning.
Upon completion of the course, and an agreed number of volunteer hours, the young person will be presented with a certificate of completion and a skills record.
They will then be able to take the pack, plus a reference if applicable, to their future employer or course tutor as evidence of their community and social responsibility.
Sandra Hembery, the Charity’s Volunteer Development Manager, said:
We are delighted to have launched ‘future flyers’. This is a wonderful opportunity for ‘future flyers’ volunteers to gain valuable skills, while gaining experience and evidence to present to potential employees or college representatives. It is a wonderful way for the volunteer to be able to show their hard work and commitment to our lifesaving charity. Volunteers are the backbone of the Wales Air Ambulance, and their volunteering helps us to be able to continue to save more lives across Wales.
The project forms part of the Charity’s ongoing strategy, part of which aims to support young people through their ‘Youth Engagement Programme’. The all-Wales service is committed to offering young people across Wales the opportunity to progress and aims to acquire future supporters.
Wales Air Ambulance is consultant-led, taking hospital-standard treatments to the patient and, if required, transferring them directly to the most appropriate hospital for their illness or injury. For the patient, this can mean hours saved when compared to standard care and is proven to greatly improve survival and early recovery.
The Charity relies on public donations to raise the £11.2 million required every year to keep the helicopters in the air and rapid response vehicles on the road.
For more information contact [email protected].
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at gyfleoedd i wirfoddoli gydag Ambiwlans Awyr Cymru
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o Senedd Cymru dros y Gogledd, yn croesawu cynllun gwirfoddoli newydd sy’n helpu pobl ifanc.
Meddai Mr Rowlands, sy’n gefnogol iawn i waith Ambiwlans Awyr Cymru:
Roeddwn i’n falch iawn o glywed am lansiad y cynllun gwych hwn a fydd yn rhoi hwb hanfodol i wirfoddolwyr ifanc sy'n chwilio am waith.
Mae'n syniad rhagorol, ac yn fanteisiol iawn i unrhyw berson ifanc o dan 25 oed oherwydd byddan nhw’n gallu dangos yr hyn maen nhw wedi bod yn ei wneud pan fyddan nhw wrthi’n chwilio am swydd.
Diolch hefyd i Gymdeithas Adeiladu'r Principality am roi grant i gefnogi cynllun ‘hedfanwyr y dyfodol’.
Rwy'n gefnogol iawn i waith Ambiwlans Awyr Cymru, mae’r elusen yn darparu gwasanaeth hanfodol ledled Cymru ac yn helpu i achub cannoedd o fywydau ac yn haeddu pob cefnogaeth.
Bwriad y ddau gyfle newydd i wirfoddoli, sy’n cynnwys prosiect yn Abertawe, yw rhoi cyfle i unigolion o dan 25 oed gofrestru ar gyfer y cynllun a'u gweld i gyd yn cael pecyn ‘hedfanwyr y dyfodol’.
Mae'r pecyn yn cynnwys llyfr log, i wirfoddolwyr gofnodi’r oriau maen nhw wedi’u gweithio ynghyd â llofnod cadarnhau gan eu goruchwyliwr. Bydd y gwirfoddolwyr yn cwblhau cwrs ar-lein hefyd, sy'n trafod materion megis cynllunio ariannol, ysgrifennu CV a chynllunio gyrfa.
Ar ôl gorffen y cwrs, a gwneud nifer penodol o oriau gwirfoddol, bydd y person ifanc yn cael tystysgrif i ddangos ei fod wedi cwblhau’r cwrs a chofnod o’i sgiliau.
Yna bydd modd dangos y pecyn, a geirda hefyd os yw'n berthnasol, i ddarpar gyflogwr neu diwtor cwrs yn y dyfodol fel tystiolaeth o'u cyfrifoldeb cymunedol a chymdeithasol.
Dywedodd Sandra Hembery, Rheolwr Datblygu Gwirfoddolwyr yr Elusen:
Mae wedi rhoi cryn bleser i ni fod wedi lansio ‘hedfanwyr y dyfodol’. Dyma gyfle gwych i wirfoddolwyr ‘hedfanwyr y dyfodol’ ennill sgiliau gwerthfawr, gan ennill profiad a thystiolaeth y gallan nhw ei dangos i ddarpar gyflogwyr neu gynrychiolwyr colegau. Mae'n ffordd wych i wirfoddolwyr allu dangos eu gwaith caled a'u hymrwymiad i'n helusen ni, sy'n helpu i achub bywydau. Gwirfoddolwyr yw asgwrn cefn Ambiwlans Awyr Cymru, ac mae eu gwaith gwirfoddol nhw yn ein helpu ni i barhau i achub rhagor o fywydau ledled Cymru.
Mae'r prosiect yn rhan o strategaeth barhaus yr Elusen, a rhan o’i bwriad yw cefnogi pobl ifanc drwy’r ‘Rhaglen Ymgysylltu Ieuenctid’. Mae’r elusen yn wasanaeth i Gymru gyfan, a’r bwriad yw rhoi cyfle i bobl o bob cwr o Gymru wneud cynnydd gan feithrin cefnogwyr i’r dyfodol ar yr un pryd.
Ymgynghorwyr sy’n arwain gwaith Ambiwlans Awyr Cymru. Mae’r gwasanaeth yn mynd â thriniaeth o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, mae’n trosglwyddo'r claf yn uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. O gymharu â gofal safonol, gall hyn olygu arbed oriau i'r claf, ac mae’n hysbys bod hyn yn gwella gallu’r claf i oroesi a chael adferiad buan.
Mae'r Elusen yn dibynnu ar roddion cyhoeddus i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â [email protected].