Sam Rowlands MS recently visited the national headquarters of BASC in Rossett, near Wrexham.
Mr Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, met with members of the organisation to discuss conservation issues.
He said:
I was delighted to visit BASC national HQ, here in North Wales and have the opportunity to discuss the importance of good quality conservation.
It was great to meet up with the team and be able to talk about their concerns and how BASC, the Welsh Government and the Welsh Parliament can all work together to ensure high standards are maintained.
The organisation gets involved in many different campaigns from monitoring the developing situation over bird flu to support the conservation and enhancement of natural habitats and the biodiversity they support.
We also discussed the importance of helping people to understand the link between field and fork in the food chain, which is something I am keen to promote as it is vitally important.
Sam Rowlands AS yn rhoi sylw i waith BASC
Yn ddiweddar, ymwelodd Sam Rowlands AS â phencadlys cenedlaethol BASC yn Yr Orsedd, ger Wrecsam.
Gwnaeth Mr Rowlands, yr AS dros Ogledd Cymru, gyfarfod ag aelodau'r sefydliad i drafod materion cadwraeth.
Meddai:
Pleser o'r mwyaf oedd cael ymweld â phencadlys cenedlaethol BASC yma yn y Gogledd a chael cyfle i drafod pwysigrwydd cadwraeth o ansawdd da.
Roedd hi'n wych cael cyfarfod â'r tîm a gallu siarad am eu pryderon a sut y gall BASC, Llywodraeth Cymru a'r Senedd i gyd weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod safonau uchel yn cael eu cynnal.
Mae'r sefydliad yn cymryd rhan mewn llawer o ymgyrchoedd gwahanol, o fonitro'r sefyllfa sy'n datblygu mewn perthynas â ffliw adar i gefnogi cadwraeth a gwella cynefinoedd naturiol a'r bioamrywiaeth maen nhw'n ei chefnogi.
Fe wnaethom ni hefyd drafod pwysigrwydd helpu pobl i ddeall y cysylltiad rhwng y pridd a'r plât yn y gadwyn fwyd, sy'n rhywbeth rwy'n awyddus i'w hyrwyddo gan ei fod yn hanfodol bwysig.