Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has called for the Welsh Government to ensure charities like Marie Curie receive proper funding.
Mr Rowlands, Shadow Health Minister joined fellow members at a drop in event organised by the charity at the Senedd in Cardiff, which highlighted the importance of palliative care.
He said:
It was great to meet up with representatives of Marie Curie Cymru at the Senedd and catch up on their news and hear more about the vital work they continue to carry out.
I am a great supporter of this charity and always back their annual Great Daffodil Appeal which is held every year in March, to raise much needed funds.
Every donation means that when the time comes, Marie Curie can be there for people and their loved ones when they need it most.
However, they do need support all year round and I believe politicians need to make proper funding a priority. Quality palliative care is absolutely essential, to ensure people have dignity at the end of their lives.
Marie Curie is the largest independent provider of end of life care and the largest charitable provider of hospice care beds in Wales.
As well as nursing and expert hospice care there are Companion volunteers and Marie Cure charity shops across the country.
The charity is also the largest charitable founder of research work to improve end of life care and has around 150 Marie Curie Nurses working in Wales, caring for around 2,400 terminally ill people and their families in their homes each year.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at waith elusen genedlaethol, Marie Curie
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod elusennau fel Marie Curie yn cael arian priodol.
Ymunodd Mr Rowlands, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid â'i gyd-aelodau mewn digwyddiad galw heibio, a drefnwyd gan yr elusen yn y Senedd yng Nghaerdydd, a oedd yn tynnu sylw at bwysigrwydd gofal lliniarol.
Dywedodd:
Roedd yn wych cwrdd â chynrychiolwyr Marie Curie Cymru yn y Senedd a chlywed eu newyddion diweddaraf a mwy am y gwaith hanfodol y maen nhw’n parhau i'w wneud.
Rwy'n cefnogi’r elusen hon i’r carn ac rydw i bob amser yn cefnogi eu Hapêl Daffodil Fawr flynyddol sy'n cael ei chynnal bob mis Mawrth, i godi arian sydd wirioneddol ei angen.
Mae pob rhodd yn golygu, pan ddaw'r amser, y gall Marie Curie fod yno i bobl a'u hanwyliaid pan fydd angen y cymorth hynny arnyn nhw fwyaf.
Fodd bynnag, mae angen cefnogaeth arnyn nhw drwy gydol y flwyddyn ac rwy'n credu bod angen i wleidyddion wneud cyllid priodol yn flaenoriaeth. Mae gofal lliniarol o safon yn gwbl hanfodol, er mwyn sicrhau bod gan bobl urddas ar ddiwedd eu hoes.
Marie Curie yw'r darparwr gofal diwedd oes annibynnol mwyaf a'r darparwr elusennol mwyaf o welyau gofal hosbis yng Nghymru.
Yn ogystal â gofal nyrsio a gofal hosbis arbenigol, mae yna wirfoddolwyr Cydymaith a siopau elusen Marie Cure ledled y wlad.
Yr elusen hefyd yw'r sylfaenydd elusennol mwyaf o waith ymchwil i wella gofal diwedd oes ac mae ganddi tua 150 o Nyrsys Marie Curie yn gweithio yng Nghymru, yn gofalu am oddeutu 2,400 o bobl â salwch terfynol a'u teuluoedd yn eu cartrefi bob blwyddyn.