Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing a project aimed at teaching young people how to stay safe in the countryside.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, recently met with volunteers from the charity North Wales Horse Watch.
He said:
I was delighted to have the opportunity to meet with members of this hard-working organisation and hear all about their Rural Education Project initiative and how they are using this to educate our children about the countryside code.
It was encouraging to hear about their work to raise rural awareness amongst younger generations, helping them to enjoy, respect and stay safe in the countryside.
It is people like them who make a difference in our communities, and deserve our full support.
The Rural Education Project is an initiative of the charity North Wales Horse Watch which aims to use education to preserve the environment for future generations by delivering the countryside code into the school curriculum.
Their tailored education workshops provide engaging interactive learning experiences to help raise educational standards and knowledge in areas including; the countryside code; animal welfare and crime prevention.
The one to three hour sessions are offered to any educational establishments such as primary, secondary and special needs schools, colleges and universities, community groups, riding and pony clubs and young farmers clubs.
The organisation was launched in 2010 by horse owner Helen Lacey after she became a victim of equine crime. The network was launched on social media and now has in excess of 6,500 members.
The network is co-ordinated by Helen, who is assisted by a small team of volunteers and has the backing of North Wales Police. For more information about the charity go to http://www.northwaleshorsewatch.co.uk.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at waith Gwarchod Ceffylau Gogledd Cymru
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn cefnogi prosiect sydd â’r nod o ddysgu pobl ifanc sut i gadw'n ddiogel yng nghefn gwlad.
Yn ddiweddar bu Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, yn cwrdd â gwirfoddolwyr o'r elusen Gwarchod Ceffylau Gogledd Cymru.
Meddai:
Roeddwn i’n falch iawn o gael y cyfle i gwrdd ag aelodau'r mudiad gweithgar hwn a chlywed am eu menter Prosiect Addysg Wledig a sut maen nhw'n ei ddefnyddio i addysgu ein plant am y cod cefn gwlad.
Roedd hi’n galonogol clywed am eu gwaith i godi ymwybyddiaeth wledig ymysg y to iau, gan eu helpu i fwynhau, parchu ac aros yn ddiogel yng nghefn gwlad.
Pobl fel nhw sy'n gwneud gwahaniaeth yn ein cymunedau, ac maen nhw’n haeddu ein cefnogaeth lawn.
Mae'r Prosiect Addysg Wledig yn fenter gan yr elusen Gwarchod Ceffylau Gogledd Cymru sy'n ceisio defnyddio addysg i ddiogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol trwy gyflwyno'r cod cefn gwlad yng nghwricwlwm yr ysgol.
Mae eu gweithdai addysg pwrpasol yn darparu profiadau dysgu rhyngweithiol apelgar i helpu i godi safonau addysgol a gwybodaeth mewn meysydd gan gynnwys; y cod cefn gwlad; lles anifeiliaid ac atal troseddu.
Cynigir y sesiynau awr i deirawr i unrhyw sefydliadau addysgol fel ysgolion cynradd, uwchradd ac anghenion arbennig, colegau a phrifysgolion, grwpiau cymunedol, clybiau marchogaeth a merlod a chlybiau ffermwyr ifanc.
Cafodd y sefydliad ei lansio yn 2010 gan y perchennog ceffylau Helen Lacey wedi iddi ddioddef trosedd yn ymwneud â cheffyl. Cafodd y rhwydwaith ei lansio ar y cyfryngau cymdeithasol ac erbyn hyn mae ganddo dros 6,500 o aelodau.
Cydlynir y rhwydwaith gan Helen, sy'n cael cymorth gan dîm bach o wirfoddolwyr ac â gefnogir gan Heddlu Gogledd Cymru. Am ragor o wybodaeth am yr elusen, ewch i http://www.northwaleshorsewatch.co.uk.