Sam Rowlands MS for North Wales has called on his colleagues to work together to promote tourism in the country.
Mr Rowlands, who chairs the Cross-Party Group on Tourism said he was encouraged with responses from members.
He said:
The aim of the group is to explore the challenges facing the tourism industry, particularly as we recover from the pandemic.
We need to ensure that the Welsh Government continues to show support and helps the hard hit industry to flourish and grow.
I am delighted to be chairing a group of like-minded people, consisting of all Senedd political parties and representatives from the tourism Industry and Welsh Government.
There is no doubt about it we have a mammoth task in the future and many challenges. At the last meeting we had a constructive debate around what impact local taxes for second homes and self-catering accommodation will have on the tourism industry.
We will continue to debate these serious issues and press the Welsh Government to take action where necessary.
Sam Rowlands AS yn cynnal Grŵp Trawsbleidiol ar gefnogi’r Diwydiant Twristiaeth
Mae Sam Rowlands AS ar gyfer Gogledd Cymru wedi galw ar ei gydweithwyr i gydweithio i hyrwyddo twristiaeth yn y wlad.
Dywedodd Sam Rowlands, sy’n cadeirio’r Grŵp Trawsbleidiol ar Dwristiaeth fod ymatebion gan aelodau wedi bod yn galonogol.
Meddai:
Nod y grŵp yw pwyso a mesur yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant twristiaeth, yn enwedig wrth i ni ddod dros y pandemig.
Mae angen i ni sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn dal ati i ddangos cefnogaeth ac yn helpu’r diwydiant sydd wedi’i effeithio’n drwm i ffynnu a thyfu.
Rwyf wrth fy modd yn cael cadeirio grŵp o bobl o’r un meddylfryd, sy’n cwmpasu’r holl bleidiau gwleidyddol yn y Senedd a chynrychiolwyr o’r diwydiant twristiaeth a Llywodraeth Cymru.
Rydym yn wynebu her aruthrol yn y dyfodol a heriau di-ri. Yn y cyfarfod diwethaf cawsom ddadl adeiladol ynghylch pa effaith y bydd trethi lleol ar ail gartrefi a llety hunanarlwyo yn ei chael ar y diwydiant twristiaeth.
Byddwn yn parhau i ddadlau ynghylch y materion difrifol hyn ac yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn ôl yr angen.