Sam Rowlands MS for North Wales is calling on his constituents to host their own Daffodil Day as leading end of life charity Marie Curie launches its biggest annual fundraising appeal.
He recently joined Marie Curie’s Nurses and Policy and Public Affairs team at an event to hear about the charity’s work to improve the availability of palliative care overnight and at weekends or
Mr Rowlands said:
The work Marie Curie do is needed now more than ever. That is why I’m encouraging people across the whole of North Wales to show their support for the Great Daffodil Appeal in any way they can by hosting a Daffodil Day.
Every donation means that when the time comes, Marie Curie can be there for people and their loved ones when they need it most, and continue to campaign for a better end of life for all.
I’ll be wearing my daffodil on the National Day of Reflection to connect with all those bereaved. I hope my constituents will be able to create their own Walls of Reflection to remember those people they’ve loved and lost.
According to the charity’s latest research people in their last year of life make 30,000 ‘out-of-hours' emergency visits to A&E each year in Wales. Women aged under 65 who live in more deprived areas of Wales are the most likely to need emergency out-of-hours visit to A&E in their last year of life. But access to good quality palliative and end of life care in the community can support dying people to stay out of hospital and remain at home, if that’s where they want to be.
Marie Curie is calling for: A 24/7 telephone line accessible within each health board in Wales to ensure palliative care services have a single point of access for dying people and their carers, no matter the day or time; A long-term action plan led by Welsh Government to improve end of life care and Welsh Government to tackle the deep inequalities facing women in palliative and end of life care by prioritising it as an action in the forthcoming 10-year Women and Girl’s Health plan
Natasha Wynne, Marie Curie Cymru Senior Policy Manager said:
We cannot tell people that they need to die during office hours to get the care they need. The lack of support out-of-hours causes unnecessary distress to patients and families and can lead to upsetting and avoidable emergency admissions which increase pressure on an already stretched NHS.
There is a real opportunity in Wales to sort out the problems with out-of-hours care through the implementation of the recent palliative and end of life care Quality Statement. This says that everyone, regardless of where they live, should have 24/7 single point of access to co-ordinated care, medication, and advice about end-of-life care.
This week’s event follows the formal launch of the charity’s Great Daffodil Appeal which people can support by hosting a Daffodil Day and fundraising in whatever way works for them – a bake sale, a fitness challenge or whatever sparks their inspiration. The charity is also encouraging people to get involved in the National Day of Reflection, which will take place during the Great Daffodil Appeal on March 23.
Marie Curie is also calling on volunteers to give just two hours of their time to hand out the charity’s iconic daffodil pins in return for donations.
Anyone wishing to host a Daffodil Day will get support from the charity’s fundraising team as soon as they sign up to volunteer, and all the money raised will help Marie Curie continue to provide vital end of life care for terminally ill people and their families during their final days, weeks and months.
If you’re interested in taking part in the Great Daffodil Appeal or hosting a Daffodil Day as an individual, community group, school or business in North Wales, contact your community fundraiser Victoria Hardy on 07720 949007 or [email protected] to chat about your idea, request an information pack or sign up to a collection or visit www.mariecurie.org.uk/daffodil. To sign up to the National Day of Reflection visit www.mariecurie.org.uk/dayofreflection
Sam Rowlands AS yn ymuno â digwyddiad Marie Curie ac yn annog pobl y Gogledd i gynnal eu Diwrnod Cennin Pedr eu hunain
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar ei etholwyr i gynnal eu Diwrnod Cennin Pedr eu hunain wrth i'r elusen diwedd oes flaenllaw Marie Curie lansio ei hapêl codi arian flynyddol fwyaf.
Yn ddiweddar, ymunodd â Nyrsys a thîm Polisi a Materion Cyhoeddus Marie Curie mewn digwyddiad i glywed am waith yr elusen i wella’r gofal lliniarol sydd ar gael dros nos ac ar benwythnosau neu 'y tu allan i oriau'.
Meddai Mr Rowlands:
Mae angen y gwaith mae Marie Curie yn ei wneud nawr yn fwy nag erioed. Dyna pam rwy’n annog pobl ledled y Gogledd i ddangos eu cefnogaeth i’r Apêl Fawr Cennin Pedr mewn unrhyw ffordd y gallan nhw drwy gynnal Diwrnod Cennin Pedr.
Mae pob rhodd yn golygu, pan ddaw'r amser, y gall Marie Curie fod yno i bobl a'u hanwyliaid pan fydd angen y cymorth arnyn nhw fwyaf, a pharhau i ymgyrchu am well diwedd oes i bawb.
Mi fydda i'n gwisgo fy nghenhinen Bedr ar y Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod er mwyn cysylltu â phawb sydd wedi cael profedigaeth. Rwy'n gobeithio y bydd fy etholwyr yn gallu creu eu Muriau Myfyrio eu hunain i gofio'r bobl hynny maen nhw wedi eu caru a'u colli.
Yn ôl ymchwil ddiweddaraf yr elusen mae pobl ym mlwyddyn olaf eu bywydau yn gwneud 30,000 o ymweliadau argyfwng 'y tu allan i oriau' ag adrannau damweiniau ac achosion brys bob blwyddyn yng Nghymru. Menywod dan 65 oed sy'n byw yn ardaloedd mwy difreintiedig Cymru yw'r rhai mwyaf tebygol o fod angen ymweliad brys y tu allan i oriau arferol ag adrannau damweiniau ac achosion brys ym mlwyddyn olaf eu bywydau. Ond gall mynediad at ofal lliniarol a diwedd oes o ansawdd da yn y gymuned gynorthwyo pobl sy'n marw i aros allan o'r ysbyty ac aros yn eu cartref, os mai dyna le maen nhw eisiau bod.
Mae Marie Curie yn galw am y canlynol: Llinell ffôn 24/7 hygyrch ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru i sicrhau bod gan wasanaethau gofal lliniarol un pwynt mynediad i bobl sy'n marw a'u gofalwyr, beth bynnag yw'r diwrnod a'r amser; Cynllun gweithredu hirdymor dan arweiniad Llywodraeth Cymru i wella gofal diwedd oes, a Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau difrifol sy'n wynebu menywod mewn gofal lliniarol a diwedd oes drwy ei flaenoriaethu fel gweithred yn y cynllun Iechyd Menywod a Merched 10 mlynedd sydd ar y gweill.
Dywedodd Natasha Wynne, Uwch Reolwr Polisi Marie Curie Cymru:
Dydyn ni ddim yn gallu dweud wrth bobl bod angen iddyn nhw farw yn ystod oriau swyddfa i gael y gofal sydd ei angen arnyn nhw. Mae'r diffyg cymorth y tu allan i oriau yn achosi gofid diangen i gleifion a theuluoedd a gall arwain at ymweliadau brys llawn gofid y gellid eu hosgoi sy'n cynyddu'r pwysau ar GIG sydd eisoes dan bwysau.
Mae cyfle gwirioneddol yng Nghymru i ddatrys y problemau gyda gofal y tu allan i oriau arferol trwy weithredu'r Datganiad Ansawdd Gofal Lliniarol a Diwedd Oes diweddar. Mae’n dweud y dylai pawb, waeth ble maen nhw'n byw, gael pwynt mynediad 24/7 at ofal wedi'i gydlynu, meddyginiaeth, a chyngor ar ofal diwedd oes.
Mae'r digwyddiad yr wythnos hon yn dilyn lansiad ffurfiol Apêl Fawr Cennin Pedr yr elusen y gall pobl ei chefnogi trwy gynnal Diwrnod Cennin Pedr a chodi arian ym mha bynnag ffordd sy'n gweithio iddyn nhw – gwerthu cacennau, her ffitrwydd neu beth bynnag sy'n eu hysbrydoli. Mae'r elusen hefyd yn annog pobl i gymryd rhan yn y Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod, a fydd yn digwydd yn ystod yr Apêl Fawr Cennin Pedr ar 23 Mawrth.
Mae Marie Curie hefyd yn galw ar wirfoddolwyr i roi dim ond dwy awr o'u hamser i ddosbarthu bathodynnau cennin Pedr eiconig yr elusen yn gyfnewid am gyfraniadau.
Bydd unrhyw un sy'n dymuno cynnal Diwrnod Cennin Pedr yn cael cymorth tîm codi arian yr elusen cyn gynted ag y byddan nhw’n cofrestru i wirfoddoli, a bydd yr holl arian a godir yn helpu Marie Curie i barhau i ddarparu gofal diwedd oes hanfodol i bobl â salwch angheuol a'u teuluoedd yn ystod eu dyddiau, wythnosau a misoedd olaf.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn yr Apêl Fawr Cennin Pedr neu gynnal Diwrnod Cennin Pedr fel unigolyn, grŵp cymunedol, ysgol neu fusnes yn y Gogledd, cysylltwch â'ch codwr arian cymunedol Victoria Hardy ar 07720 949007 neu [email protected] i drafod eich syniad, gofyn am becyn gwybodaeth neu gofrestru i gasglu neu ewch i www.mariecurie.org.uk/daffodil. I gofrestru ar gyfer y Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod ewch i www.mariecurie.org.uk/dayofreflection