Sam Rowlands North Wales MS is backing a call to reduce baby loss and support bereaved parents.
Mr Rowlands, Conservative member of the Welsh Parliament, was commenting during Baby Loss Awareness Week which runs from October 9-15th.
He said:
Baby loss is devastating for families who experience the most awful of tragedies. We really need to do more to prevent this and support bereaved parents through the most challenging times.
It really must be every parent’s nightmare and I am happy to show my support on social media and share why I care about baby loss.
Organisers of the Baby Loss Awareness Week have been asking MSs to join the campaign to break the silence and explain what Baby Loss Awareness Week means to them and their constituents.
They have asked them to share a video, image or message on social media explaining why they care about baby loss during the awareness week.
One in four pregnancies ends in miscarriage and 5,000 wanted pregnancies are terminated for medical reasons every year. 13 babies are stillborn or die shortly after birth every day.
Baby Loss Awareness Week is now in its 20th year and brings together anyone touched by pregnancy and baby loss and helps them feel they are not alone.
Sam Rowlands AS yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod
Mae Sam Rowlands, AS Rhanbarthol Gogledd Cymru, yn cefnogi galwad i leihau nifer y babanod sy'n cael eu colli a chefnogaeth i rieni mewn profedigaeth.
Roedd Mr Rowlands, sy'n Aelod Ceidwadol o Senedd Cymru, yn gwneud sylwadau yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod a gynhelir rhwng 9-15 Hydref.
Meddai:
Mae colli babi yn ddinistriol i deuluoedd sy'n profi'r drychineb fwyaf ofnadwy hon. Mae gwir angen i ni wneud mwy i atal hyn a chefnogi rhieni mewn profedigaeth trwy'r cyfnod heriol hwn.
Dyma hunllef waethaf pob rhiant ac rwy'n hapus i ddangos fy nghefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol a rhannu pam rwy'n pryderu am golli babanod.
Mae trefnwyr Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod wedi bod yn gofyn i ASau ymuno â'r ymgyrch er mwyn rhoi terfyn ar y tawelwch ac esbonio beth mae Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod yn ei olygu iddyn nhw a'u hetholwyr.
Maen nhw wedi gofyn iddyn nhw rannu fideo, delwedd neu neges ar y cyfryngau cymdeithasol i esbonio pam eu bod nhw’n poeni am golli babanod yn ystod yr wythnos ymwybyddiaeth.
Mae camesgoriad yn digwydd mewn un o bob pedwar beichiogrwydd ac mae 5,000 o achosion o feichiogrwydd yn cael eu terfynu am resymau meddygol bob blwyddyn. Mae 13 babi yn farw-anedig neu'n marw'n fuan ar ôl eu genedigaeth bob dydd.
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod wedi’i chynnal ers ugain mlynedd erbyn hyn ac mae'n dwyn ynghyd unrhyw un sy'n cael ei gyffwrdd gan feichiogrwydd a cholli babanod ac yn eu helpu i deimlo nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain.