Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has cautiously welcomed news of a new dental helpline for patients in North Wales.
Mr Rowlands, a harsh critic of the lack of NHS dentists in North Wales, is pleased to see Betsi Cadwaladr University Health Board putting measures in place to help urgent cases.
He said:
As I have said many times in the past the lack of NHS dental provision in North Wales is a major problem caused by years and years of mismanagement by the Welsh Labour Government, so I welcome any news to improve the situation.
It is good to see that the Health Board are going to introduce a pilot scheme with a call back system for people who need emergency treatment. However, there still remains problems for people in North Wales trying to get on the books of an NHS dentist.
We still keep hearing that more and more dentists are no longer offering NHS services and this is extremely worrying.
Earlier this year I carried out research into the availability of NHS dentists in Wales and was shocked but not surprised with the results.
Only four of the 57 dentists I contacted in North Wales were accepting new NHS patients and of those four dentists taking on new NHS patients, all had waiting lists of two years or more.
This is unacceptable and is denying people in North Wales their right to access NHS dental services.
The Labour Government’s dental reforms must fix the inaccessibility of NHS Dental Services across Wales, if not, they will face a complete collapse – with people’s dental health in Wales suffering as a result.
The North Wales health board says they know that patients have faced difficulties contacting their dental helpline to secure an urgent appointment, following an initial triage by NHS 111 colleagues.
To help address this, in the coming weeks they will pilot a call back service, whereby NHS 111 staff share triage information with dental helpline staff, who will then make outbound calls to patients to arrange an urgent appointment.
Sam Rowlands AS yn falch fod bwrdd iechyd yn cymryd camau i wella gwasanaethau deintyddol y GIG
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi lled-groesawu’r newyddion am linell gymorth ddeintyddol newydd i gleifion yn y gogledd.
Mae Mr Rowlands, sydd wedi beirniadu diffyg deintyddion y GIG yn y gogledd yn hallt, yn falch o weld Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn rhoi mesurau ar waith i helpu achosion brys.
Dywedodd:
Fel y dywedais droeon yn y gorffennol, mae diffyg darpariaeth ddeintyddol y GIG yn y gogledd yn broblem fawr a achoswyd gan flynyddoedd o gamreoli gan Lywodraeth Lafur Cymru, felly rwy’n croesawu unrhyw newyddion i wella’r sefyllfa.
Mae’n dda gweld bod y Bwrdd Iechyd yn mynd i gyflwyno cynllun peilot gyda system galw nôl i bobl sydd angen triniaeth frys. Fodd bynnag, mae pobl y gogledd yn dal i wynebu problemau wrth gofrestru gyda deintyddion GIG.
Rydyn ni’n dal i glywed fod nifer cynyddol o ddeintyddion yn rhoi’r gorau i gynnig gwasanaethau’r GIG ac mae hyn yn peri pryder mawr.
Yn gynharach eleni, fe wnes i wneud gwaith ymchwil i argaeledd deintyddion y GIG yng Nghymru. Roedd y canlyniadau’n sioc, ond ddim yn syndod.
Dim ond pedwar o’r 57 deintydd y cysylltais â nhw yn y gogledd oedd yn derbyn cleifion GIG newydd ac roedd rhestr aros o ddwy flynedd neu fwy gan bob un o’r pedwar.
Mae hyn yn annerbyniol ac mae’n gwadu hawl pobl yn y gogledd i gael gafael ar wasanaethau deintyddol y GIG.
Mae’n rhaid i ddiwygiadau deintyddol y Llywodraeth Lafur ddatrys anhygyrchedd Gwasanaethau Deintyddol y GIG ledled Cymru. Os na fydd hynny’n digwydd, mae chwalfa lwyr yn anochel – a bydd iechyd deintyddol pobl yng Nghymru yn dioddef o ganlyniad.
Yn ôl bwrdd iechyd y gogledd, maen nhw’n ymwybodol fod cleifion wedi wynebu trafferthion wrth gysylltu â’u llinell gymorth ddeintyddol i sicrhau apwyntiad brys, yn dilyn brysbennu cychwynnol gan gydweithwyr GIG 111.
Er mwyn helpu i fynd i’r afael â hyn, bydd gwasanaeth galw yn ôl yn cael ei dreialu yn ystod yr wythnosau nesaf, gyda staff GIG 111 yn rhannu gwybodaeth brysbennu â staff y llinell gymorth ddeintyddol, a fydd wedyn yn cysylltu â chleifion i drefnu apwyntiad brys.