Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed news that the thousands of jobs could be on the way to North-East Wales.
Last year, the UK Government pledged to support plans for an Investment Zone worth up to £160 million in North-East Wales which could create up to 6,000 jobs.
Mr Rowlands, Shadow Cabinet Secretary for Finance, said:
It is great to hear that the planned zone will build on the success of the region’s advanced manufacturing sector and is expected to bring thousands of jobs to North Wales.
It really is fantastic news and an extremely positive step for the area and for the future of Wrexham and Flintshire.
We all know that there are endless opportunities for investment in North-East Wales, with our close proximity to the North West and links to Ireland and Europe. Let us hope the creation of this zone is just the beginning.
The planned zone is a collaboration between Flintshire County Council, Wrexham County Borough Council, the North Wales Corporate Joint Committee, Welsh Government and UK Government.
The UK Government is making available flexible funding of £160m to help fund infrastructure development of the North Wales sites. There will also be money going towards improving local transport links.
There will also be tax and rate relief to help speed up the development.
Sam Rowlands AS yn falch o glywed bod mwy o swyddi ar y gweill ar gyfer Gogledd Cymru
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi croesawu'r newyddion y gallai miloedd o swyddi fod ar y ffordd i’r Gogledd-ddwyrain.
Y llynedd, addawodd Llywodraeth y DU gefnogi cynlluniau ar gyfer Parth Buddsoddi gwerth hyd at £160 miliwn yn y Gogledd-ddwyrain a allai greu hyd at 6,000 o swyddi.
Meddai Mr Rowlands, Ysgrifennydd Cabinet yr Wrthblaid dros Gyllid:
Mae'n wych clywed y bydd y parth arfaethedig yn adeiladu ar lwyddiant sector gweithgynhyrchu datblygedig y rhanbarth a disgwylir iddo ddod â miloedd o swyddi i’r Gogledd.
Mae'n newyddion gwych ac yn gam cadarnhaol iawn i'r ardal ac ar gyfer dyfodol Wrecsam a Sir y Fflint.
Rydyn ni i gyd yn gwybod bod cyfleoedd diddiwedd ar gyfer buddsoddi yn y Gogledd-ddwyrain, diolch i’n hagosrwydd at ogledd-orllewin Lloegr a chysylltiadau ag Iwerddon ac Ewrop. Gadewch i ni obeithio mai dim ond y dechrau yw creu'r parth hwn.
Mae'r parth arfaethedig yn gydweithrediad rhwng Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyd-bwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Mae Llywodraeth y DU yn sicrhau cyllid hyblyg gwerth £160m i helpu i ariannu datblygiad seilwaith safleoedd yn y Gogledd. Bydd arian hefyd yn mynd tuag at wella cysylltiadau trafnidiaeth lleol.
Bydd rhyddhad trethi ac ardrethi hefyd i helpu i gyflymu'r datblygiad.