Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed news of funding for medical students at the new North Wales Medical School.
He said:
I welcome this announcement as it has been something which is long overdue in North Wales and great news for my region.
I have been calling for this to happen for a long time as it is vital we train doctors locally and encourage them to stay and work in this lovely part of the world.
It is good to see at last the Welsh Government is listening and ensuring the funding is there for medical students. It is great to see something positive happening in North Wales.
The new medical school will be stablished in a partnership between Welsh Government, Bangor University, Cardiff University and Betsi Cadwaladr University Health Board.
It will train hundreds of medical students and ensure training opportunities and the provision of qualified doctors are spread across Wales.
Training will begin in 2024 with student numbers increasing until reaching capacity from 2029.
Sam Rowlands AS yn falch o glywed y bydd Canolfan Feddygaeth newydd yn y Gogledd yn hyfforddi meddygon y dyfodol yn fuan
Mae Sam Rowlands, Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi croesawu'r newyddion am gyllid i fyfyrwyr meddygol yn Ysgol Feddygaeth newydd y Gogledd.
Dywedodd:
Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad hwn gan y bu hir ddisgwyl am hyn yn y Gogledd ac mae'n newyddion gwych i'm rhanbarth i.
Rydw i wedi bod yn galw am hyn ers talwm gan ei bod yn hanfodol ein bod ni’n hyfforddi meddygon yn lleol ac yn eu hannog i aros a gweithio yn y rhan hyfryd hon o'r byd.
Mae'n dda gweld bod Llywodraeth Cymru yn gwrando o’r diwedd ac yn sicrhau bod yr arian ar gael i fyfyrwyr meddygol. Mae'n wych gweld rhywbeth cadarnhaol yn digwydd yn y Gogledd.
Bydd yr ysgol feddygaeth newydd yn cael ei sefydlu mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Bydd yn hyfforddi cannoedd o fyfyrwyr meddygol ac yn sicrhau bod cyfleoedd hyfforddi a chyflenwad o feddygon cymwys ar gael ar hyd a lled Cymru.
Bydd yr hyfforddiant yn dechrau yn 2024 gyda nifer y myfyrwyr yn cynyddu nes cyrraedd y nifer llawn yn 2029.