Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed an initiative to encourage Rhyl students to learn the art of hedgelaying.
He said:
I am delighted to hear how students from Llandrillo College, based at the Rhyl campus, have been doing their bit to regenerate local hedgerows.
It is good to see how they have been involved in helping to improve a section of hedge at the Rhyl Cut and learning an age old traditional craft.
I welcome any initiatives which encourage young people to learn more about the past and how old practices can sometimes be the best way to help improve our biodiversity.
Hedgelaying allows a hedge to be partially cut and laid down at an angle which results in regrowth of the hedge coming from the bottom and allows the hedgerow to thicken at the base providing a dense habitat for biodiversity.
The traditional craft was historically applied by the majority of farms and landowners as part of their winter boundary management. Mechanical hedgerow maintenance then took over but studies have shown how much more effective this older method is for the much needed regeneration of hedgerows.
Countryside Ranger Vitor Evora said:
It was great to get to showcase this traditional craft to the Rhyl students as hedgelaying can really improve local biodiversity and the results at the Rhyl Cut will really be of benefit.
Volunteers Mal Edwards and Steve Fenner were amazing with the students, delivering a one-hour workshop and working alongside them to craft a good length of hedgerow.
Sam Rowlands AS yn falch o weld myfyrwyr coleg yn dysgu hen grefft
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi croesawu menter i annog myfyrwyr y Rhyl i ddysgu am y grefft o blygu gwrych.
Meddai:
Rwy'n falch iawn o glywed sut mae myfyrwyr o Goleg Llandrillo, sydd wedi'u lleoli ar gampws y Rhyl, wedi bod yn cyfrannu at adfywio gwrychodd lleol.
Mae'n dda gweld sut maen nhw wedi bod yn helpu i wella rhan o wrych yn Rhyl Cut a dysgu hen grefft draddodiadol.
Rwy'n croesawu unrhyw fentrau sy'n annog pobl ifanc i ddysgu mwy am y gorffennol a sut y gall hen arferion fod y ffordd orau weithiau o helpu i wella ein bioamrywiaeth.
Mae plygu gwrychoedd yn caniatáu i wrych gael ei dorri'n rhannol a'i osod ar ongl sy'n arwain at aildyfiant y gwrych o'r gwaelod ac yn rhoi trwch i waelod y gwrych gan ddarparu cynefin trwchus i fioamrywiaeth.
Defnyddiwyd y grefft draddodiadol yn hanesyddol gan y rhan fwyaf o ffermydd a thirfeddianwyr fel rhan o reoli eu ffiniau yn y gaeaf. Yna cymerodd gwaith cynnal a chadw gwrychoedd mecanyddol yr awenau ond mae astudiaethau wedi dangos cymaint yn fwy effeithiol yw'r dull hŷn hwn ar gyfer adfywio gwrychoedd y mae mawr eu hangen.
Meddai'r Ceidwad Cefn Gwlad, Vitor Evora:
Roedd yn wych cael arddangos y grefft draddodiadol hon i fyfyrwyr y Rhyl gan y gall plygu gwrychoedd wella bioamrywiaeth leol a bydd y canlyniadau yn y Rhyl Cut yn fuddiol dros ben.
Roedd y gwirfoddolwyr Mal Edwards a Steve Fenner yn anhygoel gyda'r myfyrwyr, yn cyflwyno gweithdy awr o hyd ac yn gweithio ochr yn ochr â nhw i greu darn sylweddol o wrych.