
Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed two new bus routes between Deeside and Ellesmere Port.
Last week Arriva introduced two new bus services which will improve transport links in Ellesmere Port, Deeside Industrial Park, and Queensferry.
Mr Rowlands said:
I am delighted to see this cross-border service which will be a great boost to all those who use this route whether travelling to work or school on both sides of the border.
These new services are especially welcome after Flintshire County Council withdrew the service which affected the link between Ellesmere Port, Deeside Industrial Park and Queensferry.
I am pleased to see this vital service continuing.
The new 101/101A bus service will ensure Stanney Grange, Ellesmere Port, Deeside Industrial Park, and Queensferry remain connected.
The 101A service links Ellesmere Port and Deeside Industrial Park via Stanney Grange, with eight journeys per day, including early morning and early evening links to Deeside Industrial Park and two journeys which also extend to Queensferry crossroads.
All the 101/101A services serve Stanney Grange Estate, giving an hourly daytime service.
The timetable for the 101/101A service is on the Arriva website at https://arriva.widen.net/s/vpvxx6b9fp/101-101a-ellesmere-port-deeside-26.01.25
Sam Rowlands AS yn falch o weld llwybrau bws newydd i’r Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, wedi croesawu dau lwybr bws newydd rhwng Glannau Dyfrdwy ac Ellesmere Port.
Yr wythnos diwethaf fe gyflwynodd Arriva ddau wasanaeth bws newydd a fydd yn gwella cysylltiadau trafnidiaeth yn Ellesmere Port, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, a Queensferry.
Meddai Mr Rowlands:
Rwy'n falch iawn o weld y gwasanaeth trawsffiniol hwn a fydd yn hwb mawr i bawb sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwn, boed yn teithio i'r gwaith neu i’r ysgol ar y naill ochr a’r llall i’r ffin.
Mae croeso arbennig i'r gwasanaethau newydd hyn ar ôl i Gyngor Sir y Fflint roi’r gorau i’r gwasanaeth a oedd yn effeithio ar y cysylltiad rhwng Ellesmere Port, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a Queensferry.
Rwy'n falch o weld y gwasanaeth hanfodol hwn yn parhau.
Bydd y gwasanaeth bws 101/101A newydd yn parhau i gysylltu Stanney Grange, Ellesmere Port, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, a Queensferry.
Mae'r gwasanaeth 101A yn cysylltu Ellesmere Port a Pharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy trwy Stanney Grange, gydag wyth taith y dydd, gan gynnwys cysylltiadau bore a min nos â Pharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a dwy daith sydd hefyd yn ymestyn i groesffordd Queensferry.
Mae'r holl wasanaethau 101/101A yn gwasanaethu Stad Stanney Grange, gan ddarparu gwasanaeth bob awr yn ystod y dydd.
Mae'r amserlen ar gyfer y gwasanaeth 101/101A ar wefan Arriva yn https://arriva.widen.net/s/vpvxx6b9fp/101-101a-ellesmere-port-deeside-26.01.25