Sam Rowlands MS for North Wales has welcomed a new initiative starting next month for residents in his region.
Betsi Cadwaladr University Health Board, Wrexham County Borough Council and the Association of Voluntary Organisations in Wrexham, have joined forces to create a new Wellbeing Hub in the town centre.
Mr Rowlands, Welsh Conservative and Shadow Minister for Local Government said:
I am pleased to see all three organisations working together to provide a place where it makes it easier for people to access a range of services all under one roof.
It is great to see the hub, which will offer information and advice as well as accessible spaces and facilities, actually in Wrexham town centre so that people will be encouraged to call in.
The idea is to make it a real hub of the community for all the family including an outdoor play area and new sensory room.
I understand there are also plans to run different exercise classes and local groups and organisations are also being encouraged to make use of the building. It is a great idea and fantastic location and ideal for the community.
The Wellbeing Hub based at the Crown building in Wrexham town centre is due to officially open its doors on Tuesday September 13 from 2.30pm-5pm and members of the public are invited to take a look at the premises.
Robin Ranson from BCUHB Health Improvement team said she had recently had a tour of the Wrexham Wellbeing Hub.
She said:
The building looks fantastic, is very inviting and is located in a handy central location with great transport links as well as easy walking and wheelchair access. The rooms for hire look super and we are keen to run our Health Improvement Programme from there. There is also space for exercise classes as well as table and chairs for our educational sessions.
We can see ourselves making great use of this amazing facility that we are so lucky to have in Wrexham and recommend others come to see what potential it has for their groups/services.
During the opening afternoon there will be demonstrations, information stalls, tai chi taster sessions, story time, sensory room, outdoor play area and fun activities.
For more information about the Wellbeing Hub and the services it has to offer search for Wellbeing Hub on Facebook.
Sam Rowlands AS yn falch o weld Hwb Lles ar gyfer canol tref Wrecsam
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi croesawu menter newydd i drigolion ei ranbarth a fydd yn dechrau fis nesaf.
Mae Bwrdd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chymdeithasau Gwirfoddol Wrecsam, wedi uno i greu Hwb Lles newydd yng nghanol y dref.
Meddai Mr Rowlands, aelod o’r Ceidwadwyr Cymreig a Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol ar ran y Ceidwadwyr Cymreig:
Rwy’n falch o weld y tri sefydliad yn cydweithio i ddarparu lle sy’n ei gwneud hi’n haws i bobl gael gafael ar amrywiaeth o wasanaethau o dan yr un to.
Mae’n wych gweld y ganolfan hon, a fydd yn cynnig gwybodaeth a chyngor yn ogystal â gofodau a chyfleusterau hygyrch, yng nghanol tref Wrecsam, a bydd hyn yn annog pobl i alw i mewn.
Y syniad yw ei wneud yn ganolfan wirioneddol i’r gymuned ac i’r teulu cyfan yn cynnwys ardal chwarae awyr agored ac ystafell synhwyraidd newydd.
Rwy’n deall bod yna gynlluniau i gynnal gwahanol ddosbarthiadau ymarfer corff hefyd ac mae grwpiau a sefydliadau lleol yn cael eu hannog i ddefnyddio’r adeilad. Mae’n syniad gwych ac yn lleoliad arbennig, yn ddelfrydol ar gyfer y gymuned.
Bydd yr Hwb Lles yn adeiladau’r Goron yng nghanol tref Wrecsam yn agor ei ddrysau ddydd Mawrth 13 Medi rhwng 2.30pm-5pm ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd i ddod i weld y ganolfan.
Roedd Robin Ranson o dîm Gwella Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn gweld Hwb Lles Wrecsam yn ddiweddar.
Meddai:
Mae’r adeilad yn edrych yn wych, mae’n groesawgar iawn ac mae mewn lleoliad canolog cyfleus gyda chysylltiadau trafnidiaeth gwych a mynediad hawdd ar droed ac mewn cadair olwyn. Mae’r ystafelloedd sydd ar gael i’w llogi yn edrych yn wych ac rydym yn awyddus i gynnal ein Rhaglen Gwella Iechyd oddi yno. Mae yna le i ddosbarthiadau ymarfer corff a bwrdd a chadeiriau ar gyfer ein sesiynau addysgol hefyd.
Rydym yn rhagweld y byddwn yn gwneud llawer o ddefnydd o’r cyfleuster anhygoel hwn yr ydym mor ffodus o’i gael yn Wrecsam ac rydym yn argymell i eraill y dylent ddod i weld ei botensial ar gyfer eu grwpiau/gwasanaethau nhw.
Yn ystod y prynhawn agored fe fydd arddangosiadau, stondinau gwybodaeth, sesiynau blasu tai chi, amser stori, ystafell synhwyraidd, ardal chwarae awyr agored a gweithgareddau hwyl.
I gael rhagor o wybodaeth am yr Hwb Lles a’r gwasanaethau sydd ganddo i’w cynnig chwiliwch am Hwb Lles ar Facebook.