Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging anyone seeking financial help for a new project to apply for fundin
Ambition North Wales is seeking applications for new projects to join their ambitious, innovative Growth Deal portfolio after announcing a funding allocation of up to £30 million. The funding aims to support projects that have the potential to drive economic growth and create jobs in the region.
Mr Rowlands said:
I am delighted to see that £30 million has been allocated towards the North Wales Growth Deal schemes in my region and would urge anyone who fits the criteria to apply.
Applications are now open for funds and a Question and Answer webinar event is taking place next week if you want to find out more details.
I support any financial help for local projects especially when they bring more jobs, encourage investment and have a long term positive economic impact for North Wales.
Ambition North Wales is seeking applications for new projects to join their ambitious, innovative Growth Deal portfolio after announcing a funding allocation of up to £30 million. The funding aims to support projects that have the potential to drive economic growth and create jobs in the region.
Alwen Williams, Portfolio Director for Ambition North Wales, added:
The Growth Deal has a long-term focus and will build a more vibrant, sustainable and resilient economy here in North Wales. The Growth Deal Funding is a great opportunity to identify new and exciting projects to help achieve our ambitions.
A Q&A webinar event is being held on February 27 at 12:30pm.To register your place click here. Information on applying, the funding criteria and further requirements can be found here.
Sam Rowlands AS yn falch o weld £30 miliwn o gyllid ar gyfer Bargen Twf y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o'r Senedd dros Ranbarth Gogledd Cymru, yn annog unrhyw un sy’n chwilio am gymorth ariannol ar gyfer prosiect newydd i wneud cais am arian.
Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn chwilio am geisiadau ar gyfer prosiectau newydd i ymuno â'u portffolio Bargen Twf uchelgeisiol, arloesol ar ôl cyhoeddi dyraniad cyllid o hyd at £30 miliwn. Nod yr arian yw cefnogi prosiectau sydd â'r potensial i sbarduno twf economaidd a chreu swyddi yn y rhanbarth.
Dywedodd Mr Rowlands:
Dwi’n falch iawn o weld bod £30 miliwn wedi'i ddyrannu tuag at gynlluniau Bargen Twf y Gogledd yn fy rhanbarth a byddwn yn annog unrhyw un sy'n bodloni'r meini prawf i wneud cais.
Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer cronfeydd ac mae digwyddiad gweminar Holi ac Ateb yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf os ydych chi am ddysgu mwy.
Dwi'n cefnogi unrhyw gymorth ariannol ar gyfer prosiectau lleol yn enwedig pan maen nhw'n dod â mwy o swyddi, yn annog buddsoddiad ac yn cael effaith economaidd bositif hirdymor ar y Gogledd.
Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn chwilio am geisiadau ar gyfer prosiectau newydd i ymuno â'u portffolio Bargen Twf uchelgeisiol, arloesol ar ôl cyhoeddi dyraniad cyllid o hyd at £30 miliwn. Nod yr arian yw cefnogi prosiectau sydd â'r potensial i sbarduno twf economaidd a chreu swyddi yn y rhanbarth.
Ychwanegodd Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru:
Mae gan y Fargen Twf ffocws hirdymor a bydd yn adeiladu economi fwy bywiog, cynaliadwy a gwydn yma yn y Gogledd. Mae cyllid y Fargen Twf yn gyfle gwych i nodi prosiectau newydd a chyffrous i helpu i gyflawni ein huchelgeisiau.
Cynhelir digwyddiad gweminar holi ac ateb ar 27 Chwefror am 12:30pm. I gofrestru eich lle cliciwch yma. Mae'r manylion ymgeisio, y meini prawf ariannu a rhagor o ofynion ar gael yma.