Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has congratulated a team from Denbighshire County Council for receiving a national award.
He said:
I was delighted to hear that the Young Persons Counselling Team at Denbighshire County Council had won the ‘Social Care Innovation through Collaboration’ Award at this year’s MediWales Awards.
It is great to see a project, to help improve the well-being and mental health of children and young people in North Wales receiving national recognition. I would like to congratulate the team for all their hard work.
The success of the programme also means that the scheme can also be rolled out across the region to help benefit many others.
The Children and Adolescent Mental Health Services, CAHMS, Transformation and Improvement Team, with support from Betsi Cadwaladr University Health Board’s Research and Development team, issued a national call to local, regional and national partners to share ideas that would help improve the services offered to young people.
One of the projects submitted was the Missing Boys Project from the Young Persons Counselling Team at Denbighshire County Council.
The pilot and unique project provided increased school based counselling services for young boys and men between 11-18 years old in Denbighshire, which helped reduce pressure and waiting times for CAMHS services.
Early results from this project has shown that the young boys who engaged in the project now know more about how to access mental health support and when to seek help.
This project has now been recognised nationally after winning the ‘Social Care Innovation through Collaboration’ Award at this year’s MediWales Awards.
The Young Persons Counselling team are planning to collaborate with the Health Board to extend this service in the area with the hope of improving male rates of engagement in therapy.
Sam Rowlands AS yn falch o weld llwyddiant prosiect iechyd meddwl yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi llongyfarch tîm o Gyngor Sir Ddinbych am dderbyn gwobr genedlaethol.
Meddai:
Roeddwn wrth fy modd o glywed bod Tîm Cwnsela Pobl Ifanc Cyngor Sir Ddinbych wedi ennill y Wobr 'Arloesi drwy Gydweithio mewn Gofal Cymdeithasol' yng Ngwobrau MediWales eleni.
Mae'n wych gweld prosiect i helpu i wella lles ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn y Gogledd sy'n derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol. Hoffwn longyfarch y tîm am eu holl waith caled.
Mae llwyddiant y rhaglen hefyd yn golygu bod modd cyflwyno'r cynllun ar draws y rhanbarth hefyd i fod o fudd i lawer o bobl eraill.
Cyhoeddodd Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed, CAHMS, y Tîm Trawsnewid a Gwella, gyda chymorth tîm Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, alwad genedlaethol ar i bartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol rannu syniadau a fyddai'n helpu i wella'r gwasanaethau a gynigir i bobl ifanc.
Un o'r prosiectau a gyflwynwyd oedd y Prosiect Bechgyn Coll o'r Tîm Cwnsela Pobl Ifanc yng Nghyngor Sir Ddinbych.
Darparodd y cynllun peilot a'r prosiect unigryw fwy o wasanaethau cwnsela mewn ysgolion i fechgyn ifanc a dynion rhwng 11-18 oed yn Sir Ddinbych, a helpodd i leihau pwysau ac amseroedd aros i wasanaethau CAMHS.
Mae canlyniadau cynnar y prosiect hwn wedi dangos bod y bechgyn ifanc a fu'n rhan o'r prosiect bellach yn gwybod mwy am sut i gael cymorth iechyd meddwl a phryd i ofyn am help.
Mae'r prosiect bellach wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol ar ôl ennill y wobr 'Arloesi drwy Gydweithio mewn Gofal Cymdeithasol' yng Ngwobrau MediWales eleni.
Mae'r tîm Cwnsela Pobl Ifanc yn bwriadu cydweithio â'r Bwrdd Iechyd i ymestyn y gwasanaeth hwn yn yr ardal gyda'r gobaith o wella cyfraddau ymgysylltu bechgyn a dynion mewn therapi.