Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed plans to bring back to life a forgotten area of a popular nature reserve in Rhyl.
He said:
I am delighted to hear about the work Denbighshire County Council’s Countryside Service staff and volunteers are carrying out to restore a nature reserve’s hidden land.
Over the winter, under the watchful eye of Countryside Ranger, Vitor Evora, they have been opening up a hidden space to the south of the main pond and this will eventually restore access to the public.
Quite apart from improving the local biodiversity it is great to see that a new path will be constructed around the pond which will make it a good place for people to walk around for exercise and have the opportunity of getting closer to nature.
Vale of Clwyd MS, Gareth Davies said:
A lot of hard work clearing undergrowth has already gone into the project and I am pleased to see that students from Rhyl college will also be involved in helping to fence off the area.
Well done to everyone involved in this fantastic scheme which will open up more areas of the popular Brickfield Pond and of course will continue to support local biodiversity.
The clearing of the undergrowth area will allow a new path to be built linking to an old community orchard and pond. A small wooden bridge will be built to provide access into the orchard using the new path that will go around the ponds edge and back.
Nearby water courses will also be cleared out to allow Water Voles the chance to flourish at the nature reserve.
Vitor explained:
The orchard and the pond we will be reopening. We will be tidying up all the area around it, cutting back the brambles but still leaving a good amount for the birds and other wildlife.
In the New Year the plan is to start building the bridge with our team and after we will have a contractor in to build the path into the area and through and around the orchard and pond.
Countryside staff will be working with Rhyl College students to also build a fence along the new area. The project is also supported by Nature for Health and Ysgol Tir Morfa.
Sam Rowlands AS yn falch o weld bod gwaith yn mynd rhagddo i ailagor rhan o Warchodfa Natur Pwll Brickfield i'r cyhoedd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi croesawu cynlluniau i ailagor ardal o warchodfa natur boblogaidd yn y Rhyl.
Meddai:
Rwy'n falch iawn o glywed am y gwaith mae staff Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych a gwirfoddolwyr yn ei wneud i adfer ardal o warchodfa natur sydd wedi mynd yn angof.
Dros y gaeaf, o dan lygad barcud y Ceidwad Cefn Gwlad, Vitor Evora, maen nhw wedi bod yn agor lle cudd i'r de o'r prif bwll, a bydd hyn yn y pen draw yn adfer mynediad i'r cyhoedd.
Yn ogystal â gwella bioamrywiaeth leol, mae'n wych gweld y bydd llwybr newydd yn cael ei adeiladu o amgylch y pwll a fydd yn ei wneud yn lle da i bobl gerdded o gwmpas i wneud ymarfer corff a chael y cyfle i ddod yn agosach at fyd natur.
Dywedodd yr Aelod o'r Senedd dros Ddyffryn Clwyd, Gareth Davies:
Mae llawer o waith caled yn clirio isdyfiant eisoes wedi'i wneud fel rhan o'r prosiect ac rwy'n falch o weld y bydd myfyrwyr o goleg y Rhyl hefyd yn rhan o'r gwaith o helpu i ffensio'r ardal.
Da iawn i bawb sy'n rhan o'r cynllun gwych hwn a fydd yn agor mwy o ardaloedd o Bwll Brickfield ac a fydd yn parhau i gefnogi bioamrywiaeth leol.
Bydd clirio'r ardal o isdyfiant yn caniatáu adeiladu llwybr newydd sy'n cysylltu â hen berllan a phwll cymunedol. Bydd pont fach bren yn cael ei hadeiladu i ddarparu mynediad i'r berllan gan ddefnyddio'r llwybr newydd a fydd yn mynd o amgylch ymyl y pwll ac yn ôl.
Bydd cyrsiau dŵr cyfagos hefyd yn cael eu clirio er mwyn rhoi cyfle i lygod y dŵr ffynnu yn y warchodfa natur.
Esboniodd Vitor:
Byddwn ni'n ailagor y berllan a'r pwll. Byddwn ni'n tacluso'r holl ardal o'i gwmpas, gan dorri'r mieri yn ôl, ond byddwn ni'n gadael cryn dipyn i'r adar a bywyd gwyllt arall.
Yn y Flwyddyn Newydd, y bwriad yw dechrau adeiladu'r bont gyda'n tîm ac yna byddwn yn cael contractwr i adeiladu'r llwybr i'r ardal ac o amgylch y berllan a'r pwll.
Bydd staff cefn gwlad yn gweithio gyda myfyrwyr Coleg y Rhyl i godi ffens ar hyd yr ardal newydd. Mae'r prosiect yn cael ei gefnogi hefyd gan Nature for Health ac Ysgol Tir Morfa.