Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is delighted that plans to create an investment zone in Wrexham and Flintshire, which could be worth up to £160 million, have been backed by the UK Government.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government was commenting after the Chancellor announced that North East Wales could be awarded this status in his Autumn budget.
He said:
I am absolutely delighted with this news as it is a project that many people have been working on for a long long time. It will be a great boost to the area’s economy and bring thousands of jobs to both counties.
Only last month I joined fellow politicians and local businesses to discuss this matter and we agreed to lobby both the UK and Welsh Governments for Wrexham and Flintshire to become an investment zone.
Earlier this year the UK Government said it would create 12 new investment zones and it is fantastic that there is now an opportunity for one in North East Wales.
I passionately believe this area is ripe for growth and this huge investment should help create thousands of new jobs.
North East Wales has two of the largest industrial estates in Europe at Deeside and Wrexham and is home to many highly successful businesses including a thriving Creative & Digital for innovation, infrastructure and skills and training projects.
Subject to a business case the Wrexham Flintshire Investment Zone will have access to support worth up to £160 million over ten years, with the new status expected to leverage an additional £1.7 billion of investment for the area and help create thousands of new jobs.
Councillor Mark Pritchard, Leader of Wrexham Council, said:
I’m extremely pleased we have secured one of the investment zones for Wrexham and Flintshire.
Our area has huge potential and is home to many talented entrepreneurs and innovative companies who are helping to drive the region forward.
First of all I would like to thank our local MP Sarah Atherton and MS Vaughan Gethin for all their hard work in making our bid a successful one.”
I’d would also like offer thanks to Ashley Rogers at the North Wales Business Council and Joanna Swash at Moneypenny, as well as JCB, Airbus, Networld Sports, AMRC Cymru, Theatre Clwyd, Wrexham University and all the other organisations and individuals who made the case for an investment zone in North East Wales.
I’d also like to thank Flintshire County Council for working with us on this important initiative.
Wrexham is enjoying an increased global profile currently, and the investment zone will help drive yet more interest and business investment into the area.
Sam Rowlands AS yn falch gyda chyhoeddiad Llywodraeth y DU ynghylch Ardal Fuddsoddi Gogledd Ddwyrain Cymru
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wrth ei bodd bod Llywodraeth y DU yn cefnogi cynlluniau i greu parth buddsoddi yn Wrecsam a Sir y Fflint, a allai fod yn werth hyd at £160 miliwn.
Gwnaeth Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid y sylwadau ar ôl i'r Canghellor gyhoeddi y gallai Gogledd Ddwyrain Cymru dderbyn y statws hwn yng nghyllideb yr Hydref.
Meddai:
Rydw i wrth fy modd gyda'r newyddion gan ei fod yn brosiect y mae llawer o bobl wedi bod yn gweithio arno ers amser maith. Bydd yn hwb mawr i economi'r ardal ac yn dod â miloedd o swyddi i'r ddwy sir.
Dim ond y mis diwethaf ymunais â chyd-wleidyddion a busnesau lleol i drafod y mater hwn a chytunwyd i lobïo Llywodraethau'r DU a Chymru o blaid Wrecsam a Sir y Fflint yn cael eu gwneud yn ardal fuddsoddi.
Yn gynharach eleni dywedodd Llywodraeth y DU y byddai'n creu 12 parth buddsoddi newydd ac mae'n wych bod cyfle i un yng Ngogledd Ddwyrain Cymru erbyn hyn.
Rwy'n credu'n angerddol bod yr ardal hon yn barod am dwf a dylai'r buddsoddiad enfawr hwn helpu i greu miloedd o swyddi newydd.
Mae gan Ogledd Ddwyrain Cymru ddwy o'r ystadau diwydiannol mwyaf yn Ewrop yng Nglannau Dyfrdwy a Wrecsam ac mae'n gartref i lawer o fusnesau hynod lwyddiannus gan gynnwys prosiectau creadigol a digidol ffyniannus ar gyfer arloesi, seilwaith a sgiliau a hyfforddiant.
Yn amodol ar achos busnes, bydd gan Ardal Fuddsoddi Wrecsam Sir y Fflint fynediad at gymorth gwerth hyd at £160 miliwn dros ddeng mlynedd, a disgwylir i'r statws newydd ysgogi buddsoddiad ychwanegol o £1.7 biliwn ar gyfer yr ardal a helpu i greu miloedd o swyddi newydd
Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam:
Rwy'n hynod falch ein bod wedi sicrhau un o'r parthau buddsoddi ar gyfer Wrecsam a Sir y Fflint.
Mae gan ein hardal botensial enfawr ac mae'n gartref i lawer o entrepreneuriaid talentog a chwmnïau arloesol sy'n helpu i yrru'r rhanbarth yn ei flaen.
Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i'r Aelod Seneddol lleol Sarah Atherton a’r Aelod o’r Senedd Vaughan Gethin am eu holl waith caled i wneud ein cais yn un llwyddiannus."
Hoffwn hefyd ddiolch i Ashley Rogers yng Nghyngor Busnes Gogledd Cymru a Joanna Swash yn Moneypenny, yn ogystal â JCB, Airbus, Networld Sports, AMRC Cymru, Theatr Clwyd, Prifysgol Wrecsam a'r holl sefydliadau ac unigolion eraill a gyflwynodd yr achos dros barth buddsoddi yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Hoffwn ddiolch hefyd i Gyngor Sir y Fflint am weithio gyda ni ar y fenter bwysig hon.
Mae Wrecsam yn mwynhau proffil byd-eang cynyddol ar hyn o bryd, a bydd y parth buddsoddi yn helpu i ysgogi diddordeb pellach a buddsoddiad busnes i'r ardal.