Mr Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, met with apprentices and graduates when he recently toured the Broughton factory
He said:
I was delighted to have the opportunity to look around the Broughton factory and see for myself how aircraft wings are produced. I was very impressed with the site and it was great to be able to talk to workers and hear all about their different roles in the company.
Airbus, is one of the biggest employers in my region of North Wales and employs more than 4,000 staff at the Broughton site. The factory produces the wings for all its aircraft and is recognised all over the world as providing first class service and machines.
Apart from enjoying worldwide success as a business the company also offers fantastic opportunities for people wanting a career in the aviation world.
During my visit I was able to speak to apprentices and graduates who all joined the company through Airbus’ major recruitment process which is held every year.
I have nothing but praise for the company. Airbus is a real success story and it is really good news for the local economy and people who work and supply the Broughton factory.
The company is the world’s leading manufacturer of commercial jetliners and military airlifters and is also one of the highest investors in aerospace research and development in the UK.
The Broughton site employs people from all over North Wales and produces wings for the A380 superjumbo. It is also always at the forefront of new technology and is currently involved in a project to develop a net-zero emissions aircraft.
Sam Rowlands AS yn canmol cyflogwyr mwyaf Sir y Fflint yn ystod ymweliad â safle Airbus yn y Gogledd.
Cafodd Mr Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, gyfarfod â phrentisiaid a graddedigion wrth deithio o gwmpas ffatri Brychdyn yn ddiweddar.
Meddai:
Roeddwn i’n falch iawn o gael y cyfle i edrych o gwmpas ffatri Brychdyn a gweld â’m llygaid fy hun sut y cynhyrchir adenydd awyrennau. Gwnaeth y safle argraff fawr arna’i ac roedd hi’n wych cael siarad gyda gweithwyr a chlywed am eu gwahanol rolau yn y cwmni.
Airbus yw un o’r cyflogwyr mwyaf yn fy rhanbarth yn y Gogledd ac mae’n cyflogi mwy na 4,000 o staff ar safle Brychdyn. Mae’r ffatri yn cynhyrchu’r adenydd ar gyfer ei holl awyrennau ac mae’n cael ei gydnabod bedwar ban byd fel darparwr gwasanaeth a pheiriannau o’r radd flaenaf.
Ar wahân i fwynhau llwyddiant ledled y byd fel busnes, mae’r cwmni hefyd yn cynnig cyfleoedd gwych i bobl sydd am gael gyrfa yn y byd awyrennau.
Yn ystod fy ymweliad, cefais gyfle i siarad â phrentisiaid a graddedigion a ymunodd â’r cwmni drwy broses recriwtio sylweddol Airbus a gynhelir bob blwyddyn.
Does gen i ddim ond canmoliaeth i’r cwmni. Mae Airbus yn llwyddiant ysgubol ac yn newyddion da iawn i’r economi leol a’r bobl sy’n byw a chyflenwi ffatri Brychdyn.
Y cwmni yw gwneuthurwr jetiau masnachol ac awyrennau milwrol mwyaf blaenllaw y byd ac mae hefyd yn un o’r prif fuddsoddwyr ymchwil a datblygu awyrofod yn y DU.
Mae safle Brychdyn yn cyflogi pobl o bob rhan o’r Gogledd ac yn cynhyrchu adenydd ar gyfer yr ‘A380 Superjumbo’. Mae wastad yn torri tir newydd o ran technoleg newydd ac ar hyn o bryd mae’n cyfrannu at brosiect i ddatblygu awyrennau allyriadau sero net.