Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing a call for people in Wrexham to be part of International Women’s Day celebrations.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and Chair of the Cross Party Group on Tourism, is urging groups, businesses and organisations to get involved in the event being held in Tŷ Pawb next month.
He said:
International Women’s Day is a major celebration held all over the world every year on March 8 and I am delighted to hear Wrexham is planning to highlight this very important event in such a great venue.
This is the one day in the year when issues such as gender equality, reproductive rights and violence and abuse against women are highlighted and it is vital we continue to raise awareness. It also gives us the opportunity to recognise the achievements of women.
I recently had the opportunity to visit Tŷ Pawb and see at first-hand some of the investment Wrexham council is making and I was very impressed with the resource which brings together the market and the arts along with several street food stalls in the centre of this vibrant city.
I would urge anyone interested in being a part of the celebrations or who want to showcase their organisation get in touch.
Wrexham County Borough Council is working with partners across the city to honour and highlight International Women’s Day at Tŷ Pawb on Wednesday March 8 between 10am-3pm.
The event is to celebrate all the Safer Street work which has been undertaken over the last few years as well as showcasing the good work by local companies, organisations and charities to empower women in Wrexham.
On the day there will be lots of activities and offers along with stalls and entertainment with many organisations such as Safe Places Scheme, North Wales Police, Moneypenny, DASU – Domestic Abuse Safety Unit, and Wrexham Military Preparation College, already signed up to attend.
If you would like to be involved to celebrate and showcase your organisation or area of work email [email protected] for more details.
Cllr Beverly Parry Jones, Lead Member for Corporate Services said:
International Women’s Day is a worldwide event that promotes the achievements of women, greater gender equality and empowerment.
We are keen to have as many Wrexham organisations as possible represented so to make sure you are there please get in touch using the details above.
Sam Rowlands AS yn hyrwyddo digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023 ar gyfer y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn cefnogi’r alwad i bobl yn Wrecsam fod yn rhan o ddathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Mae Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid a Chadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Dwristiaeth, yn annog grwpiau, busnesau a sefydliadau i gymryd rhan yn y digwyddiad sy'n cael ei gynnal yn Nhŷ Pawb fis nesaf.
Dywedodd:
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddathliad o bwys a gynhelir ledled y byd bob blwyddyn ar 8 Mawrth ac rwy'n falch iawn o glywed bod Wrecsam yn bwriadu tynnu sylw at y digwyddiad pwysig hwn mewn lleoliad mor wych.
Dyma'r un diwrnod yn y flwyddyn pan amlygir materion fel cydraddoldeb rhywedd, hawliau atgenhedlu a thrais a cham-drin yn erbyn menywod, ac mae'n hanfodol ein bod yn parhau i godi ymwybyddiaeth. Mae’n gyfle i ni gydnabod llwyddiannau menywod hefyd.
Cefais gyfle’n ddiweddar i ymweld â Thŷ Pawb a gweld peth o'r buddsoddiad y mae cyngor Wrecsam yn ei wneud, a’r adnodd gwych sy'n dwyn y farchnad a'r celfyddydau ynghyd, yn ogystal â sawl stondin bwyd stryd yng nghanol y ddinas fywiog hon.
Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o'r dathliadau neu sydd am arddangos eu sefydliad i gysylltu.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithio gyda phartneriaid ledled y ddinas i anrhydeddu a thynnu sylw at Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn Nhŷ Pawb ddydd Mercher 8 Mawrth rhwng 10am-3pm.
Cynhelir y digwyddiad i ddathlu'r holl waith Strydoedd Saffach sydd wedi cael ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf yn ogystal ag arddangos y gwaith da gan gwmnïau, sefydliadau ac elusennau lleol i rymuso menywod yn Wrecsam.
Ar y diwrnod bydd llawer o weithgareddau a chynigion ynghyd â stondinau ac adloniant gyda llawer o sefydliadau fel y Cynllun Lleoedd Diogel, Heddlu Gogledd Cymru, Moneypenny, DASU - Uned Diogelwch Cam-drin Domestig, a Choleg Paratoi Milwrol Wrecsam, eisoes wedi cofrestru i fod yn bresennol.
Os hoffech chi gymryd rhan i ddathlu ac arddangos eich sefydliad neu faes gwaith, e-bostiwch [email protected] am fwy o fanylion.
Dywedodd y Cynghorydd Beverly Parry Jones, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Corfforaethol:
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddigwyddiad byd-eang sy'n hyrwyddo cyflawniadau menywod, gwell cydraddoldeb rhwng y rhywiau a grymuso.
Rydyn ni'n awyddus i gael cynrychiolaeth o gymaint o sefydliadau Wrecsam â phosib, felly cysylltwch gan ddefnyddio’r manylion uchod er mwyn cadw’ch lle.