Sam Rowlands MS for North Wales is delighted to see the continued success at the RAF base in his region.
He recently joined nine fellow MSs members, on a visit to the base, as part of the Welsh Parliament’s Armed Forces Scheme.
Mr Rowlands, Welsh Parliament Member for North Wales said:
I was extremely privileged and delighted to represent the Senedd and be invited to the base as part of the Welsh Parliament’s Armed Forces Scheme.
I was pleased to have a look around this very important base in North Wales and see the facilities for myself including areas run by private contractors who maintain the Hawk and Texan training aircraft.
It was also great to meet some of the apprentices from the contractors who work on the site and hear what they had to say.
It was an excellent visit and I even had the opportunity to see the flight training simulators at work which was fascinating.
RAF Valley is the second biggest employer on Anglesey, after the Isle of Anglesey County Council and provides good quality and high paid jobs in the area which is all good for the local economy.
I was delighted to see the continued success of RAF Valley and support any moves to ensure it keeps on growing and brings prosperity to the area.
Ymweliad Sam Rowlands AS ag RAF Fali ar Ynys Môn
Roedd Sam Rowlands AS dros Ogledd Cymru yn falch o weld llwyddiant parhaus canolfan yr awyrlu yn ei ranbarth.
Yn ddiweddar, bu ar ymweliad â’r safle gyda naw AS arall, fel rhan o Gynllun Lluoedd Arfog Senedd Cymru.
Meddai Mr Rowlands, Aelod Senedd Cymru dros Ogledd Cymru:
Roeddwn i’n teimlo’n freintiedig ac yn falch tu hwnt o gael cynrychioli’r Senedd a derbyn y gwahoddiad i’r ganolfan fel rhan o Gynllun Lluoedd Arfog Senedd Cymru.
Roeddwn i’n falch o gael golwg ar y ganolfan bwysig hon yn y Gogledd a gweld y cyfleusterau gyda’m llygaid fy hun yn cynnwys ardaloedd sy’n cael eu rheoli gan gontractwyr preifat sy’n cynnal awyrennau hyfforddi Hawk a Texan.
Roedd hi’n wych hefyd cael cyfle i gyfarfod â rhai o brentisiaid y contractwyr a oedd yn gweithio ar y safle a chlywed beth oedd ganddyn nhw i’w ddweud.
Roedd yn ymweliad penigamp ac fe ges i gyfle i weld yr efelychwyr hyfforddi hedfan ar waith oedd yn dipyn o ryfeddod.
Yr Awyrlu yn y Fali yw cyflogwr mwyaf Ynys Môn ond un, ar ôl Cyngor Sir Ynys Môn ac mae’n darparu swyddi o ansawdd sy’n talu’n dda yn yr ardal sydd o fudd i’r economi leol.
Roedd yn bleser gweld llwyddiant parhaus Canolfan yr Awyrlu yn y Fali ac rwy’n cefnogi unrhyw gamau i sicrhau ei bod yn parhau i dyfu ac yn dod â ffyniant i’r ardal.