Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has called for compensation to be paid in the quickest timescale possible to those affected by the infected blood tragedy.
Mr Rowlands, Shadow Health Minister was speaking in the Senedd during the debate on the infected blood inquiry.
He said:
The infected blood scandal is one of the most grotesque miscarriages of justice in British history. Each of the victims had their entire lives turned upside down, destroyed or even lost in such agonising circumstances, and it's entirely right now that the priorities of Governments, both here and in Westminster, are ensuring that compensation gets to those victims and the families of those victims as well.
But we also need to ensure that lessons are learnt from this as well. It must be a priority that we never allow cover-ups and, essentially, corruption of this kind to happen again in our institutions, and in particular our largest public institutions that are there to protect and serve the people that we represent.
I would like to share a couple of stories from residents in terms of some of their awful experiences. One in North Wales, who was a recipient of the Welsh infected blood support scheme, shared his story with me of being infected as a child with hepatitis B and HIV and hepatitis C, spending months in intensive care. He described the lifelong impact on him, his wife and parents as 'long gnawing at our spirits'.
Another constituent was infected with hepatitis C through treatments for Von Willebrand disease, and her mother also infected, and both had to undergo liver transplants, clearly a very, very serious procedure that has long-term impacts for them and their family.
I'm pleased that, on 24 May, as part of the pre-election wash-up process, the Victims and Prisoners Bill was granted, by Royal Assent, creating the infected blood compensation authority, which will be responsible for making these final payments to victims.
He added that he hoped the compensation would get through to people who rightfully deserve it in the quickest timescale possible.
Un o'r camweddau mwyaf erchyll a fu erioed yn hanes cyfiawnder ym Mhrydain’ - barn Sam Rowlands AS am y sgandal gwaed heintiedig
Mae Sam Rowlands, AS Rhanbarthol Gogledd Cymru, wedi galw am dalu iawndal cyn gynted â phosibl i'r rhai sydd wedi'u heffeithio gan y trychineb gwaed heintiedig.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid yn siarad yn y Senedd yn ystod y ddadl ar yr ymchwiliad gwaed heintiedig.
Meddai:
Y sgandal gwaed heintiedig yn un o'r camweddau mwyaf erchyll a fu erioed yn hanes cyfiawnder ym Mhrydain. Cafodd bywydau pob un o'r dioddefwyr eu troi wyneb i waered, bywydau wedi eu dinistrio neu hyd yn oed eu colli mewn amgylchiadau mor ingol, ac mae hi'n gwbl gyfiawn ei bod hi'n flaenoriaeth nawr i Lywodraethau, yma ac yn San Steffan, i sicrhau bod iawndal yn cael ei roi i'r dioddefwyr hynny a theuluoedd y dioddefwyr hynny hefyd.
Mae angen i ni sicrhau yn ogystal bod gwersi yn cael eu dysgu o hyn hefyd Mae'n rhaid iddi fod yn flaenoriaeth na fyddwn ni fyth yn caniatáu i bethau gael eu celu ac, yn y bôn, nad oes llygredd o'r fath yn digwydd eto yn ein sefydliadau, ac yn enwedig ein sefydliadau cyhoeddus mwyaf sy'n bodoli i amddiffyn a gwasanaethu'r bobl yr ydym yn eu cynrychioli.
Fe hoffwn innau rannu cwpl o straeon y mae trigolion wedi eu dweud wrthyf am rai o'u profiadau mwyaf ingol. Rhannodd un o drigolion y gogledd, a oedd wedi cael gwaed o gynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru, ei stori gyda mi o gael ei heintio yn blentyn â hepatitis B a HIV a hepatitis C, ac fe dreuliodd fisoedd mewn gofal dwys. Disgrifiodd yr effaith gydol oes arno, ei wraig a'i rieni fel 'rhywbeth yn cnoi ar ein heneidiau ers talwm'.
Cafodd etholwr arall ei heintio â hepatitis C trwy driniaethau ar gyfer clefyd Von Willebrand, ac fe gafodd ei mam ef ei heintio hefyd, ac fe fu'n rhaid i'r ddwy gael trawsblaniad iau—sy'n amlwg yn driniaeth ddifrifol iawn, iawn sydd ag effeithiau hirdymor arnyn nhw a'u teulu.
Rwy'n falch fod y Bil Dioddefwyr a Charcharorion, ar 24 Mai, wedi cael cydsyniad yn rhan o'r broses cau pen y mwdwl cyn etholiad, y cafodd y Bil Dioddefwyr a Charcharorion Gydsyniad Brenhinol, fel rydych chi’n dweud, Gydsyniad Brenhinol, sy'n creu'r awdurdod i roi iawndal am waed heintiedig, a fydd yn gyfrifol am wneud y taliadau terfynol hyn i ddioddefwyr.
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai'r iawndal yn mynd drwodd i bobl sy'n ei haeddu yn yr amserlen gyflymaf bosibl.