Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging Welsh Government to immediately call a halt to controversial plans to introduce the 20mph default speed limit next month.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and a harsh critic of the proposal was speaking after concern about response times for emergency services were highlighted this week.
He said:
This week we have heard from a retained firefighter and an Assistant Chief Constable who have both said the new speed limit will have an impact yet these concerns fall on deaf ears. I just cannot believe Welsh Government are still refusing to listen to concerns about this ludicrous and bonkers idea.
I am sure many people will agree 20mph speed limits outside schools, hospital and other roads where there is clear evidence that lower speed limits are backed by the local community but not as a blanket approach and on arterial roads.
I am still receiving emails from my constituents in North Wales as Buckley, in my region, was one of the towns which hosted a pilot for the new 20mph default speed limit. Local residents continue to write to me to say they have seen – more pollution with cars driving for longer in a lower gear; more accidents as cars and bicycles are more likely to share the same road space for longer and more delays as traffic becomes congested and everyone drives slower.
Only last week I criticised the Welsh Labour Government for failing to plan for this ridiculous roll out as it was revealed that some roads which are to remain at 30mph will show signs for 20mph while Flintshire County Council kick the can down the road on deciding exemptions.
Everyone gets that the new speed limit is a bonkers idea except for Mark Drakeford and Lee Waters in their ivory towers in Cardiff-Bay.
There is still time to kick the whole idea into touch and call a halt to this ludicrous and bonkers idea.
Sam Rowlands AS yn dweud ei bod hi'n bryd cefnu ar gynlluniau i gyflwyno terfyn cyflymder 20mya cyffredinol
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog Llywodraeth Cymru i roi stop ar unwaith ar gynlluniau dadleuol i gyflwyno'r terfyn cyflymder cyffredinol o 20mya fis nesaf.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid a beirniad llym o'r cynnig yn siarad wedi i bryder am amseroedd ymateb i'r gwasanaethau brys ddod i’r amlwg yr wythnos hon.
Meddai:
Yr wythnos hon rydyn ni wedi clywed gan ddiffoddwr tân a Phrif Gwnstabl Cynorthwyol sydd wedi dweud y bydd y terfyn cyflymder newydd yn cael effaith, ond eto mae'r pryderon hyn yn cael eu hanwybyddu. Dydw i ddim yn gallu credu bod Llywodraeth Cymru yn dal i wrthod gwrando ar bryderon am y syniad chwerthinllyd a hurt hwn.
Rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl yn cytuno â therfynau cyflymder 20mya y tu allan i ysgolion, ysbytai a ffyrdd eraill lle mae tystiolaeth glir bod cyfyngiadau cyflymder is yn cael eu cefnogi gan y gymuned leol ond nid fel ymagwedd gyffredinol ac ar ffyrdd prifwythiennol.
Rwy'n dal i dderbyn e-byst gan fy etholwyr yng Ngogledd Cymru gan fod Bwcle, yn fy rhanbarth i, yn un o'r trefi a gynhaliodd raglen beilot ar gyfer y terfyn cyflymder cyffredinol newydd o 20mya. Mae trigolion lleol yn parhau i ysgrifennu ataf i ddweud eu bod wedi gweld mwy o lygredd gyda cheir yn gyrru am fwy o amser mewn gêr is; mae mwy o ddamweiniau gan fod ceir a beiciau yn fwy tebygol o rannu'r un lle ar y ffordd a rhagor o oedi wrth i draffig brysuro, a phawb yn gyrru'n arafach.
Dim ond wythnos yn ôl, roeddwn i’n beirniadu Llywodraeth Lafur Cymru am fethu â chynllunio ar gyfer y cyflwyniad chwerthinllyd hwn pan ddatgelwyd y bydd rhai ffyrdd sydd i aros yn 30mya yn dangos arwyddion 20mya tra bod Cyngor Sir y Fflint yn cicio eu sodlau wrth benderfynu ar esemptiadau.
Mae pawb yn credu bod y terfyn cyflymder newydd yn syniad hurt heblaw am Mark Drakeford a Lee Waters yn eu tyrau ifori ym Mae Caerdydd.
Mae amser o hyd i roi diwedd ar y syniad hurt a gwallgof hwn.