Sam Rowlands MS for North Wales is calling on young people to get more involved in having a say on what happens in Wales.
He is urging anyone aged 11-18 years, with an interest in their country to apply to become members of the Welsh Youth Parliament.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government said:
I was delighted to see the return of the Welsh Youth Parliament as I firmly believe you are never too young to get involved in politics. I have always been interested in local government and got involved as soon as I was old enough.
I was the youngest councillor on Conwy County Borough Council when elected and also the youngest ever Mayor of Abergele, so I fully support moves to encourage younger input.
The views of the younger generation are extremely important for the future and making them part of the process is a good start. It will also give them a greater understanding of how decisions are made in Wales.
I would urge anyone interested in campaigning on issues, engaging with MS’s and getting involved with decision making to apply to become a member of the Welsh Youth Parliament.
Registration to vote in the second Welsh Youth Parliament 2021-2023 is now open and if you want to become a candidate then you must register before September 20.
There will be 60 members, 40 of them will represent constituencies and 20 will be elected by partner organisations. The term will last for two years and will empower young people to identify, raise awareness and debate the issues which are important to them.
To become a member, you must be 11-17 years old on November 22 2021, live, and receive education in Wales.
Click here for more information.
"Does neb yn rhy ifanc i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth", meddai Sam Rowlands AS
Mae Sam Rowlands, AS ar gyfer Gogledd Cymru, yn galw ar bobl ifanc i fynd ati i leisio eu barn am beth sy'n digwydd yng Nghymru.
Mae'n annog unrhyw un 11-18 oed sydd â diddordeb yn eu gwlad i wneud cais i fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.
Meddai Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid:
Dwi wrth fy modd bod Senedd Ieuenctid Cymru wedi dychwelyd oherwydd dwi’n credu'n gryf nad oes neb yn rhy ifanc i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Dwi wedi bod â diddordeb mewn llywodraeth leol erioed, a dechreuais gymryd rhan yn y broses pan oeddwn i'n ddigon hen i wneud hynny.
Fi oedd y cynghorydd ieuengaf ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy pan gefais fy ethol, a'r Maer ieuengaf erioed yn Abergele, felly dwi’n awyddus iawn i weld pobl ifanc yn cymryd rhan.
Mae safbwyntiau'r genhedlaeth iau yn eithriadol o bwysig i'r dyfodol, ac mae'n rhaid sicrhau eu bod yn rhan o'r broses. Bydd yn gwella eu dealltwriaeth o sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud yng Nghymru hefyd.
Dwi’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymgyrchu ar faterion penodol, ymgysylltu ag ASau a chymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau i wneud cais i fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.
Mae'r broses ar gyfer cofrestru i bleidleisio yn ail Senedd Ieuenctid Cymru 2021-2023 ar agor bellach, ac os ydych am fod yn ymgeisydd mae'n rhaid i chi gofrestru cyn 20 Medi.
Bydd 60 o aelodau yn cael eu hethol, a bydd 40 ohonynt yn cynrychioli etholaethau ac 20 yn cael eu hethol gan sefydliadau partner. Bydd yr aelodau yn gwasanaethu am ddwy flynedd, a bydd pobl ifanc yn cael cyfle i nodi, codi ymwybyddiaeth a thrafod y materion sy'n bwysig iddynt.
I fod yn aelod, mae'n rhaid i chi fod yn unigolyn 11-17 oed ar 22 Tachwedd 2021 sy'n byw ac yn derbyn addysg yng Nghymru.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.