Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has criticised Welsh Government for approving a massive hike in NRW charges for Welsh famers.
Mr Rowlands, a keen supporter of the agricultural industry, has expressed his disappointment at the eye watering increases by National Resources Wales.
He said:
I am extremely disappointed with the new regulatory fees and charging regime from the NRW which were approved by Welsh Labour Government.
These major increases have been introduced despite protests from the industry and I am very worried this will have a great impact on our hard-working farmers. I fully sympathise with NFU Cymru who have continually campaigned against this.
I do find it absolutely amazing that these eye watering increases have gone ahead at this time when a lot of people are struggling with the cost of living and farmers in particular need support not extra costs.
I take a great interest in agricultural matters here in North Wales and regularly visit farms to talk to farmers and this is just one issue which is causing great concern.
On Saturday, July 1, Natural Resources Wales introduced its new regulatory fees and charging regime which features a dramatic hike in the fees charged to farmers for many new permits and permit variations integral farming operations.
Among the price rises are a ten-fold increase in the cost of new applications to £3,728 for land spreading of spent or unused sheep dip; changes to permits for farming installations for the rearing of pigs and poultry with the cost of new applications rising from £7,322 to £9,270. The cost of permit variations will rise from £388 to £5,562.
There will also be a 6% increase for a number of the annual fees NRW charges to recover the costs of monitoring and assessing compliance with permit conditions was introduced in April.
After engaging with its membership, NFU Cymru submitted a 21-page response to NRW’s Strategic Review of Charges (SROC) consultation, which asked for a justification as to the scale of the increases and also questioned the timing of the changes when the industry is facing the sustained impact of significant inflationary pressures.
NFU Cymru Rural Affairs Board Chairman Hedd Pugh said:
We are extremely disappointed that despite the industry raising legitimate concerns over the significant rises to fees and charges, that Natural Resources Wales has persisted and Welsh Government has approved these staggeringly expensive proposals with the changes due to be applied from this week.
It will be difficult for many farm businesses to absorb these new higher costs imposed by NRW at a time when the legacy of those well-publicised rises in input costs will continue to impact farming businesses long after the input costs themselves have settled. News of these hikes in regulatory fees and charges are a double blow for farmers.
We feel that the set charges from Saturday could well run the risk of disincentivising best practice and hinder on-farm investment and diversification opportunities as the costs have now simply become too prohibitive.
Sam Rowlands AS yn rhannu pryderon am gynnydd mawr yn ffioedd Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o Senedd Cymru dros Ogledd Cymru, wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am gymeradwyo cynnydd enfawr yn ffioedd CNC ar gyfer ffermwyr Cymru.
Mae Mr Rowlands, sy'n gefnogwr brwd o'r diwydiant amaethyddol, wedi mynegi ei siom am y cynnydd enfawr yn ffioedd Cyfoeth Naturiol Cymru.
Meddai:
Rydw i wedi fy siomi'n fawr gyda'r ffioedd rheoleiddio a'r drefn codi tâl newydd gan CNC a gymeradwywyd gan Lywodraeth Lafur Cymru.
Mae'r cynnydd mawr hwn wedi'i gyflwyno er gwaethaf protestiadau gan y diwydiant, ac rwy'n poeni'n fawr y bydd hyn yn cael effaith fawr ar ein ffermwyr sy’n gweithio mor galed. Rwy'n cydymdeimlo'n llwyr ag NFU Cymru sydd wedi ymgyrchu'n barhaus yn erbyn hyn.
Mae’n hollol anhygoel bod y cynnydd enfawr hwn wedi mynd yn ei flaen ar adeg pan fo llawer o bobl yn cael trafferth gyda chostau byw a phan fo ffermwyr yn arbennig angen cymorth, nid costau ychwanegol.
Mae gen i ddiddordeb mawr mewn materion amaethyddol yma yn y Gogledd ac rwy'n ymweld â ffermydd yn rheolaidd i siarad â ffermwyr, ac mae hwn yn fater sy'n peri pryder mawr.
Ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf, cyflwynodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei ffioedd rheoleiddio a'i drefn codi tâl newydd sy'n cynnwys cynnydd dramatig yn y ffioedd a godir ar ffermwyr am lawer o drwyddedau newydd ac amrywiadau i drwyddedau sy'n rhan annatod o weithrediadau ffermio.
Ymhlith y codiadau mewn prisiau mae cynnydd deg gwaith yn y gost o geisiadau newydd i £3,728 ar gyfer gwasgaru dip defaid sydd wedi'i ddisbyddu neu heb ei ddefnyddio ar y tir; newidiadau i drwyddedau ar gyfer gosodiadau ffermio ar gyfer magu moch a dofednod, gyda chost ceisiadau newydd yn codi o £7,322 i £9,270. Bydd cost amrywiadau i drwyddedau yn codi o £388 i £5,562.
Bydd cynnydd o 6% hefyd ar gyfer nifer o'r ffioedd blynyddol y mae CNC yn eu codi i adennill costau monitro ac asesu cydymffurfiaeth ag amodau trwyddedau a gyflwynwyd ym mis Ebrill.
Ar ôl ymgysylltu â'i aelodau, cyflwynodd NFU Cymru ymateb 21 tudalen i'r ymgynghoriad ar Adolygiad Strategol o Ffioedd (SROC) CNC, a ofynnodd am gyfiawnhad ynghylch maint y cynnydd ac a gwestiynodd amseriad y newidiadau pan fo'r diwydiant yn wynebu effaith barhaus pwysau chwyddiant sylweddol.
Meddai Cadeirydd Bwrdd Materion Gwledig NFU Cymru, Hedd Pugh:
Rydym yn hynod siomedig, er i'r diwydiant godi pryderon dilys ynghylch y cynnydd sylweddol mewn ffioedd a thaliadau, fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi parhau a Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo'r cynigion syfrdanol o ddrud hyn, gyda'r newidiadau i fod i gael eu gweithredu o'r wythnos hon ymlaen.
Bydd hi'n anodd i lawer o fusnesau fferm amsugno'r costau uwch newydd hyn a osodir gan CNC ar adeg pan fydd etifeddiaeth y codiadau hynny mewn costau mewnbwn, sydd wedi cael llawer o sylw, yn parhau i effeithio ar fusnesau ffermio ymhell ar ôl i'r costau mewnbwn eu hunain setlo. Mae newyddion am y codiadau hyn mewn ffioedd a thaliadau rheoleiddio yn ergyd ddwbl i ffermwyr.
Rydyn ni'n teimlo y gallai'r taliadau penodol o ddydd Sadwrn arwain at risg o anghymell arfer gorau a rhwystro cyfleoedd buddsoddi ac arallgyfeirio ar y fferm, gan fod y costau bellach yn gymaint o ffactor ataliol.