Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling for urgent action to tackle spiralling NHS waiting lists.
Mr Rowlands, Shadow Health Minister and a harsh critic of the way the Welsh Labour Government runs the NHS in Wales was commenting on the latest NHS statistics for Wales.
He said:
I fear that we are at crisis point as waiting list figures continue to head in the wrong direction in Labour-run Wales.
The Labour Health Minister’s latest initiatives, even if his expectations are met, will barely scratch the surface in terms of tackling these excessive, record-breaking waits for treatment. Something needs to change, fast.
People continue to languish on lists which continue to grow with 618,200 individual patients waiting for treatment in September.
Two-year waits remain at 23, 701 in Wales, compared with only 113 in England. The Labour Health Minister promised to eliminate these waits by March 2023 and again by March 2024, but failed to meet these targets.
I am also greatly concerned to hear that only 50.4% of red calls, which are the most serious received an emergency/ambulance response within eight minutes in October.
It is a truly dire situation and we need immediate action. The Welsh Labour Government must do more by eliminating restrictive guidance blocking cross-border and cross-sector working and by enacting a substantial workforce plan to boost staffing numbers, with a tuition fee refund for healthcare workers at its heart.
Sam Rowlands AS yn beirniadu ffigurau diweddaraf y GIG sy'n datgelu bod rhestrau aros y GIG yn dal i godi ar ôl yr wyth mis gwaethaf erioed
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn galw am weithredu ar unwaith i fynd i'r afael â rhestrau aros cynyddol y GIG.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid a beirniad llym o'r ffordd y mae Llywodraeth Lafur Cymru'n rhedeg y GIG yng Nghymru, yn gwneud ei sylwadau ar ystadegau diweddaraf y GIG ar gyfer Cymru.
Meddai:
Rwy'n ofni ein bod ni mewn argyfwng wrth i ffigurau rhestrau aros barhau i fynd i'r cyfeiriad anghywir yng Nghymru, dan arweiniad Llafur.
Prin y bydd mentrau diweddaraf y Gweinidog Iechyd Llafur, hyd yn oed os yw ei ddisgwyliadau'n cael eu bodloni, yn crafu'r wyneb o ran mynd i'r afael â'r arosiadau gormodol hyn am driniaeth sy'n torri pob record. Mae'n rhaid i rywbeth newid, yn gyflym.
Mae pobl yn parhau i aros yn ddi-ben-draw ar restrau sy'n tyfu o hyd, gyda 618,200 o gleifion unigol yn aros am driniaeth ym mis Medi.
Mae 23,701 o bobl yn dal i aros am ddwy flynedd yng Nghymru, o'i gymharu â dim ond 113 yn Lloegr. Addawodd y Gweinidog Iechyd Llafur y byddai’n dileu'r arosiadau hyn erbyn mis Mawrth 2023 ac eto erbyn mis Mawrth 2024, ond methodd â chyrraedd y targedau hyn bob tro.
Rydw i hefyd yn bryderus iawn o glywed mai dim ond 50.4% o alwadau coch, sef y rhai mwyaf difrifol, a dderbyniodd ymateb brys/ambiwlans o fewn wyth munud ym mis Hydref.
Mae'n sefyllfa wirioneddol enbyd ac mae angen gweithredu ar unwaith. Rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru wneud mwy drwy ddileu canllawiau cyfyngol sy'n rhwystro gweithio trawsffiniol a thraws-sector a thrwy weithredu cynllun gweithlu sylweddol i hybu niferoedd staffio, gydag ad-daliad ffioedd dysgu ar gyfer gweithwyr gofal iechyd wrth ei wraidd.