Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, says the default 20mph speed limit is causing major confusion for motorists.
Mr Rowlands, a harsh critic of the new legislation, was commenting after it was revealed that another 13,500 drivers were caught speeding on 20mph roads in Wales last month.
He said:
I make no apologies for raising this issue yet again. Quite clearly people are still confused over this extremely unpopular and unwarranted policy.
The number of motorists now being caught speeding is very concerning. Many are now driving faster to catch up with the time they have lost dawdling along in the 20mph areas. The whole policy is a complete and utter shambles.
This of course will make very little difference to the Welsh Government’s whose new guidelines are far too strict and now have passed the buck to local authorities.
The depth of feeling against this bonkers idea is immense and it is a real shame that local people and businesses continue to suffer for a policy which was ill thought out and quite frankly ridiculous.
Almost half a million people signed a petition against the new default speed limit which will come at a cost of around £33m an anticipated £9 billion hit to the Welsh economy.
It really is a crazy vanity project. The money should have been spent where it is needed on the NHS, education and public services.
Sam Rowlands AS yn beirniadu polisi chwerthinllyd sy’n effeithio ar fywydau pobl ac ar yr economi
Yn ôl Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, mae'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn achosi dryswch mawr i fodurwyr.
Roedd Mr Rowlands, sy’n feirniad hallt o'r ddeddfwriaeth newydd, yn gwneud ei sylw ar ôl clywed fod 13,500 o yrwyr eraill wedi cael eu dal yn goryrru ar ffyrdd 20mya Cymru fis diwethaf.
Dywedodd:
Dydw i ddim yn ymddiheuro am godi'r mater hwn eto. Mae’n eithaf amlwg bod pobl yn dal i fod yn ddryslyd ynghylch y polisi hynod amhoblogaidd a direswm hwn.
Mae nifer y gyrwyr sydd bellach yn cael eu dal yn goryrru yn destun pryder go iawn. Mae llawer bellach yn gyrru'n gynt i ddal i fyny â'r amser maen nhw wedi’i golli yn symud fel malwen yn yr ardaloedd 20mya. Mae'r polisi cyfan yn draed moch llwyr.
Ychydig iawn o wahaniaeth y bydd hyn yn ei wneud i Lywodraeth Cymru y mae ei chanllawiau newydd yn llawer rhy llym ac sydd bellach wedi trosglwyddo'r baich i awdurdodau lleol.
Mae dyfnder y teimladau yn erbyn y syniad gwallgo hwn yn aruthrol ac mae'n andros o siom bod pobl leol a busnesau yn parhau i ddioddef yn sgil polisi gwael a hurt bost.
Fe wnaeth bron i hanner miliwn o bobl lofnodi deiseb yn erbyn y terfyn cyflymder diofyn newydd, polisi a fydd yn costio tua £33m ac yn ergyd o £9 biliwn i economi Cymru.
Mae'n brosiect gwallgo a hynod ffôl. Dylai'r arian fod wedi cael ei wario lle mae ei angen ar y GIG, addysg a gwasanaethau cyhoeddus.