Sam Rowlands MS for North Wales is calling for urgent action to improve A&E waiting times in hospitals across his region.
Mr Rowlands, Welsh Conservative and member of the Welsh Parliament says the Welsh Labour Government needs to do a lot more.
He said:
Just last week new figures released revealed that Wrexham Maelor hospital recorded the worst monthly A&E performance in Wales ever, with just 33% of patients being seen within four hours.
I do welcome news that Betsi Cadwaladr University Health Board has bought a new building near Wrexham Maelor Hospital to house outpatient services and expand the Emergency Department, and hopefully it will address some of the challenges facing the health board.
Nevertheless, it’s clear that more needs to be done to tackle the poor health services that the people of North Wales continue to endure.
I constantly raise concerns about the poor management of the NHS by the Welsh Labour Government in the Senedd, in particular the problems we have in my region.
I receive emails daily from people who are suffering because of the failure of the Welsh Government to tackle the issues. As we head towards winter, the hospital’s busiest time of the year, urgent action is desperately needed to improve the situation for patients in North Wales.
Sam Rowlands AS yn beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio â gwneud digon i wella’r gwasanaeth iechyd gwael yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru, yn galw am gamau gweithredu brys i wella amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys yn ysbytai ei ranbarth.
Dywed Mr Rowlands, aelod o’r Ceidwadwyr Cymreig ac o Senedd Cymru, bod angen i Lywodraeth Lafur Cymru wneud llawer mwy.
Meddai:
Dim ond wythnos diwethaf roedd ffigurau newydd yn dangos bod Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cofnodi’r perfformiad misol gwaethaf erioed yng Nghymru i adran ddamweiniau ac achosion brys, gyda dim ond 33% o gleifion yn cael eu gweld o fewn pedair awr.
Rwy’n croesawu’r newyddion bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi prynu adeilad newydd ger Ysbyty Maelor Wrecsam ar gyfer gwasanaethau cleifion allanol ac er mwyn ehangu’r Adran Frys, a gobeithio y bydd yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau y mae’r bwrdd iechyd yn eu hwynebu.
Serch hynny, mae’n amlwg bod angen gwneud mwy i fynd i’r afael â’r gwasanaethau iechyd gwael y mae pobl y Gogledd yn dal i’w dioddef.
Rwy’n codi pryderon yn barhaus yn y Senedd am y ffordd wael y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn rheoli’r GIG, yn enwedig y problemau sydd gennym yn fy rhanbarth i.
Rwy’n derbyn e-byst bob dydd gan bobl sy’n dioddef yn sgil methiant Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r problemau. Wrth i ni wynebu’r gaeaf, adeg prysuraf y flwyddyn i’r ysbyty, mae angen gweithredu ar frys i wella’r sefyllfa i gleifion yn y Gogledd.