Sam Rowlands MS for North Wales is backing a council initiative to help people looking for work.
Mr Rowlands, Welsh Conservative and Shadow Minister for Local Government is supporting Denbighshire County Council’s Autumn Jobs Fair being held in Denbigh, next week.
He said:
I am pleased to promote this event which will showcase the wide range of careers and job opportunities in Denbighshire County Council.
It is an excellent initiative and gives genuine job seekers the opportunity to meet with prospective employers and managers to discuss their requirements in various fields.
The fair will focus on front line positions within the council with both permanent and fixed term contracts on offer and a range of working hours to suit everyone.
I would urge anyone looking for employment to make sure they attend this free event.
The Autumn Jobs Fair takes place on Wednesday September 14 from 3pm to 7pm at the Caledfryn Offices, Smithfield Road, Denbigh.
During the session there will be an opportunity to meet current employees and managers, learn all about a vacancy before applying, discover the generous employee benefits schemes and explore a variety of current and upcoming vacancies.
There will also be information available about flexible and hybrid working schemes, family friendly working policies, and employee wellbeing support.
Departments across the council will be attending, providing information on a diverse mix of vacancies, from catering assistants and drivers to school support staff and teaching assistants.
There will also be information about a range of Denbighshire County Council volunteering opportunities.
All Council jobs are advertised on the website: www.denbighshire.gov.uk/work-for-us, as well as the Swyddi Cyngor Sir Ddinbych or Denbighshire Council Jobs pages on Facebook.
Sam Rowlands AS yn cefnogi Ffair Swyddi’r hydref yn Ninbych
Mae Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru, yn cefnogi menter y cyngor i helpu pobl sy’n chwilio am waith.
Mae Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, yn cefnogi Ffair Swyddi Hydref Cyngor Sir Dinbych a gynhelir yn Ninbych yr wythnos nesaf.
Meddai:
Rwy’n falch o hyrwyddo’r digwyddiad hwn a fydd yn arddangos yr ystod eang o gyfleoedd gyrfaoedd a swyddi yng Nghyngor Sir Dinbych.
Mae’n fenter ragorol ac yn rhoi'r cyfle i geiswyr gwaith diffuant gyfarfod darpar gyflogwyr a rheolwyr i drafod eu gofynion mewn meysydd amrywiol.
Bydd y ffair yn canolbwyntio ar swyddi rheng flaen yn y cyngor gyda chontractau parhaol a thymor penodol yn cael eu cynnig ac oriau gwaith amrywiol sy’n addas i bawb.
Byddwn yn annog unrhyw un sy’n chwilio am waith i sicrhau eu bod yn mynychu’r digwyddiad hwn.
Cynhelir Ffair Swyddi’r hydref ddydd Mercher, 14 Medi rhwng 3pm a 7pm yn Swyddfeydd Caledfryn, Heol Smithfield, Dinbych.
Yn ystod y sesiwn bydd cyfle i gyfarfod gweithwyr a rheolwyr presennol, dysgu popeth am swydd wag cyn gwneud cais, darganfod y cynlluniau buddiannau hael i weithwyr a phwyso a mesur swyddi gwag presennol a’r rhai sy’n debygol o godi.
Bydd gwybodaeth ar gael hefyd am gynlluniau gwaith hyblyg a hybrid, polisïau gwaith sy’n ystyried y teulu, a chymorth lles gweithwyr.
Bydd adrannau o bob rhan o’r cyngor yn mynychu, gan ddarparu gwybodaeth am gymysgedd amrywiol o swyddi gwag, o gynorthwywyr arlwyo a gyrwyr i staff cymorth a chynorthwywyr addysgu mewn ysgolion.
Bydd gwybodaeth hefyd am gyfleoedd gwirfoddoli amrywiol gyda Chyngor Sir Ddinbych.
Hysbysebir pob swydd Cyngor ar y wefan: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/swyddi-a-gweithwyr/gweithio-i-ni/gweithio-gyda-ni.aspx, ynghyd ag ar dudalennau Facebook Swyddi Cyngor Sir Ddinbych neu Denbighshire Council Jobs.