Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing calls for the Isle of Anglesey to become a Freeport.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government joined fellow Senedd members to show his support for the bid before a debate on the subject.
He said:
Everyone knows how I feel about Anglesey, which is one of the jewels in the crown for North Wales and its tourism industry. I have long campaigned, along with local MP, Virginia Crosbie, for more to be done to promote the use of Holyhead port.
It is ideally placed to become a Freeport and would bring huge benefits to my region with jobs, investment and trade which are all badly needed on Anglesey.
Only last month we heard that a major employer, 2 Sisters Food Group in Llangefni were proposing to close their site with the loss of over 700 jobs. We need support from both the Welsh and UK Government to make sure that everything possible is being done to bring jobs and prosperity to this area.
Closing the Welsh Conservative Debate on Freeports, in the Senedd Mr Rowlands said:
Freeports are certainly not the be-all and end-all, but have a significant role in helping our economy move forward. We've been clear from our benches as Conservatives
that we recognise the significant opportunities that come from Freeports and this includes the investment, high-quality jobs and regeneration. A Freeport policy brings
investment, trade and more jobs right across Wales, to make sure those industries of yesterday are being replaced by green and innovative, fast-growing, new businesses.
A number of members highlighted where there are already agreed Freeports taking place in the UK. We're seeing thousands of those new, high-skilled jobs being set up, both with public and private sector investment.
Local MS, Rhun ap Iorwerth said he was in full support of the Port of Holyhead Freeport bid, which has also seen great support from Isle of Anglesey County Council, Stena Line, other businesses and, of course, consistent and clear support from the MP for Ynys Môn, Virginia Crosbie.
Ynys Môn has unique characteristics and opportunities that make it an extremely attractive place for the establishment of a new Freeport. The area's proud trading history is underpinned by world-leading port infrastructure and the potential to become a green energy superpower.
In addition to this, analysis conducted by the Centre for Economics and Business Research indicates that Anglesey Freeport could bring up to 13,000 jobs to North Wales over a 15-year period. Along with this, Stena Line, as already mentioned, states that Freeport status would simplify the passing of lorries through the port there as well.
Sam Rowlands AS yn cefnogi cais i Ynys Môn ddod yn Borthladd Rhydd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn cefnogi’r galw i Ynys Môn droi'n Borthladd Rhydd.
Ymunodd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid â'i gyd-aelodau yn y Senedd i ddangos ei gefnogaeth i'r cais cyn dadl ar y pwnc.
Meddai:
Mae pawb yn gwybod sut rwy'n teimlo am Ynys Môn, sy’n drysor yng nghoron y Gogledd a'i ddiwydiant twristiaeth. Rwyf wedi ymgyrchu ers tro, ynghyd â'r AS lleol, Virginia Crosbie, i wneud mwy i hyrwyddo'r defnydd o borthladd Caergybi.
Mae mewn lleoliad delfrydol i fod yn Borthladd Rhydd a byddai'n dod â buddion enfawr i'm rhanbarth gyda swyddi, buddsoddiad a masnach y mae angen dybryd amdanynt ar Ynys Môn.
Dim ond fis diwethaf y clywsom fod cyflogwr mawr, 2 Sisters Food Group yn Llangefni yn bwriadu cau ei safle gan golli dros 700 o swyddi. Mae angen cefnogaeth arnom gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i wneud yn siŵr bod popeth posib yn cael ei wneud i ddod â swyddi a ffyniant i'r ardal hon.
Wrth gloi Dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar borthladdoedd rhydd yn y Senedd, dywedodd Mr Rowlands:
Dyw Porthladdoedd Rhydd ddim yn datrys pob problem, ond gallant wneud cyfraniad sylweddol at helpu ein heconomi i symud ymlaen. Rydyn ni wedi bod yn glir o'n meinciau ni fel Ceidwadwyr ein bod yn cydnabod y cyfleoedd sylweddol a ddaw yn sgil Porthladdoedd Rhydd ac mae hyn yn cynnwys y buddsoddiad, swyddi o’r radd flaenaf ac adfywio. Mae polisi Porthladd Rhydd yn dod â buddsoddiad, masnach a mwy o swyddi ledled Cymru, i sicrhau bod diwydiannau’r gorffennol yn cael eu disodli gan fusnesau newydd gwyrdd ac arloesol, sy'n tyfu'n gyflym.
Fe wnaeth nifer o'r aelodau dynnu sylw at ble mae porthladdoedd rhydd wedi’u cymeradwyo eisoes yn y DU. Rydyn ni'n gweld miloedd o'r swyddi newydd, sgiliau uchel hynny’n cael eu sefydlu, gyda buddsoddiad yn y sector cyhoeddus a phreifat.
Dywedodd yr Aelod lleol o’r Senedd, Rhun ap Iorwerth, ei fod yn llwyr gefnogi cais Porthladd Rhydd Caergybi, sydd wedi cael cefnogaeth wych hefyd gan Gyngor Sir Ynys Môn, Stena Line, busnesau eraill ac, wrth gwrs, cefnogaeth gyson a chlir gan AS Ynys Môn, Virginia Crosbie.
Mae gan Ynys Môn nodweddion a chyfleoedd unigryw sy'n ei wneud yn lle hynod ddeniadol ar gyfer sefydlu Porthladd Rhydd newydd. Yn sail i hanes masnachu balch yr ardal mae isadeiledd porthladdoedd gyda’r gorau yn y byd a'r potensial i fod yn gawr ynni gwyrdd.
Yn ogystal â hyn, mae dadansoddiad a gynhaliwyd gan y Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes yn dangos y gallai Porthladd Rhydd Ynys Môn ddod â hyd at 13,000 o swyddi i’r Gogledd dros gyfnod o bymtheng mlynedd. Ynghyd â hyn, mae Stena Line, fel y soniwyd eisoes, yn dweud y byddai statws Porthladd Rhydd yn ei gwneud yn haws i lorïau ddefnyddio’r porthladd yno hefyd.