Sam Rowlands MS for North Wales is calling on constituents to have their say about a new plan to boost the very best of Welsh produce for local people.
The consultation for the Food (Wales) Bill. which aims to strengthen and promote the best of Welsh food and drink, has now been launched, and members of the public are being asked for their views.
Mr Rowlands, Welsh Conservative Shadow Minister for Local Government said:
Ensuring Wales’ food security is a principle that every person, regardless of their political persuasion, can, and should get behind.
The Bill provides a vital framework which will make Wales richer and safer. I urge my constituents to complete the consultation.
The objectives of the proposed bill include: establishing a Welsh Food Commission with powers to monitor and report on progress towards Government commitments, as well as statutory commitments, and to oversee the delivery of the Food Goals and food plans and tackling food waste: reducing the food waste created by food producers and consumers is set out as one of the secondary food goals.
Peter Fox, the Welsh Conservative Shadow Minister for Finance who also launched the Bill, said:
The aim of my Bill is to safeguard and strengthen our Welsh food system and our food security for future generations.
This Bill, which has had cross party support, is a welcome reminder of the good that can be achieved when party politics is put aside.
For more information and to take part in the consultation go to: https://senedd.wales/senedd-business/legislation/proposed-member-bills/development-of-the-food-wales-bill/consultation-draft-food-wales-bill/
Sam Rowlands AS yn cefnogi bil i hyrwyddo 'cynnyrch lleol ar gyfer pobl leol’
Mae Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru, yn galw ar etholwyr i ddweud eu dweud am gynllun newydd i hybu'r gorau o gynnyrch Cymru ar gyfer pobl leol.
Nod Bil Bwyd (Cymru) yw cryfhau a hyrwyddo'r gorau o fwyd a diod o Gymru, ac mae'r ymgynghoriad arno bellach wedi'i lansio ac yn galw am farn aelodau'r cyhoedd.
Dywedodd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig:
Mae sicrhau diogelwch bwyd Cymru yn egwyddor y dylai pob un ohonom, beth bynnag yw'n lliw gwleidyddol, ei chefnogi.
Mae'r Bil yn darparu fframwaith hanfodol a fydd yn gwneud Cymru yn gyfoethocach ac yn fwy diogel. Rwy'n annog fy etholwyr i gwblhau'r ymgynghoriad.
Mae amcanion y bil arfaethedig yn cynnwys: sefydlu Comisiwn Bwyd Cymru sydd â phwerau i fonitro ac adrodd ar y cynnydd tuag at ymrwymiadau'r Llywodraeth, yn ogystal ag ymrwymiadau statudol, a goruchwylio'r gwaith o gyflawni'r Nodau Bwyd a chynlluniau bwyd a mynd i'r afael â gwastraff bwyd: mae lleihau'r gwastraff bwyd sy'n cael ei greu gan gynhyrchwyr a defnyddwyr bwyd wedi'i nodi fel un o'r nodau bwyd eilaidd.
Dywedodd Peter Fox, Gweinidog Cyllid yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymru sydd hefyd wedi lansio'r Bil:
Nod fy Mil yw diogelu a chryfhau ein system fwyd yma yng Nghymru a diogelwch ein cyflenwad bwyd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae'r Bil hwn, sydd wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol, yn ein hatgoffa o'r daioni sy'n bosib pan fyddwn ni'n rhoi gwleidyddiaeth bleidiol o'r neilltu.
Am fwy o wybodaeth ac i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ewch i: https://senedd.cymru/busnes-y-senedd/deddfwriaeth/biliau-arfaethedig-aelod/datblygu-r-bil-bwyd-cymru/ymgynghoriad-bil-bwyd-cymru-drafft/