Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling for more to be done to improve blood cancer survival.
Mr Rowlands, Shadow Health Minister, recently joined fellow members at the launch of the UK Blood Cancer Action Plan in Cardiff.
Mr Rowlands, a harsh critic of the way the NHS is run by the Welsh Labour Government, said:
It was good to meet with healthcare professionals and hear all about the action plan and how more needs to be done to improve survival rates here in Wales and across the UK.
It was sobering to hear that too many people are still dying of blood cancer in the UK and we are now falling behind similar countries when it comes to survival. Over 10 years, one million+ potential years of life have been lost to blood cancer. This must change.
Barely half of cancer patients are receiving treatment within the 62-day target time in Labour-run Wales and there is no clear trend of improvement.
The action plan from BCUK provides a blueprint for bold action, the fact that only one hospital in the whole of Wales provides groundbreaking CAR-T therapy isn’t good enough.
If we boost staffing levels as the Conservatives have proposed and invest in provision, we can also put forward a faster diagnostic standard, as is the case in England, of 28 days.
We should also have more ambition in collecting information on cancer treatments in Wales to perfect treatments and improve prospects.
Blood Cancer UK is a charity dedicated to beating blood cancer by funding research and supporting those affected by the condition. Since 1960 it has invested over £500 million in research, transforming treatments and saving lives.
The UK Blood Cancer Action Plan, entitled ‘Taking blood cancer out of the shadows’ is a landmark policy report focused on improving survival from blood cancer in adults across the UK. It sets out the challenges that stand in the way of the improvements needed to increase survival rates.
The report outlines five key areas to improve survival and reduce disparities in access to treatment and care for those living with blood cancer.
The action plan was developed in collaboration healthcare professionals, researchers, and individuals affected by blood cancer, recommends improvements in areas like workforce development, early diagnosis initiatives, reducing barriers to accessing care, and increasing access to treatments.
Sam Rowlands AS yn cefnogi Cynllun Gweithredu Blood Cancer UK
Mae Sam Rowlands, Aelod o Senedd Cymru dros y Gogledd, yn galw am wneud mwy i wella’r gallu i oroesi canser y gwaed.
Ymunodd Mr Rowlands, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid, â chyd-aelodau yn ddiweddar yn lansiad Cynllun Gweithredu Blood Cancer UK yng Nghaerdydd.
Dywedodd Mr Rowlands, beirniad llym o'r ffordd y mae'r GIG yn cael ei redeg gan Lywodraeth Lafur Cymru:
Roedd yn dda cwrdd â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a chlywed popeth am y cynllun gweithredu a sut mae angen gwneud mwy i wella cyfraddau goroesi yma yng Nghymru ac ar draws y DU.
Roedd yn ofnadwy clywed bod gormod o bobl yn dal i farw o ganser y gwaed yn y DU ac rydym ni ar ei hôl hi bellach ymhlith gwledydd tebyg pan ddaw hi i oroesi. Dros ddeng mlynedd, mae dros filiwn o flynyddoedd posibl o fywyd wedi'u colli i ganser y gwaed. Rhaid i hyn newid.
Prin fod hanner y cleifion canser yn cael triniaeth o fewn yr amser targed o 62 diwrnod yng Nghymru sy'n cael ei rhedeg gan Lafur a does dim tuedd glir bod y sefyllfa’n gwella.
Mae'r cynllun gweithredu gan BCUK yn darparu glasbrint ar gyfer gweithredu beiddgar, nid yw'r ffaith mai dim ond un ysbyty yng Nghymru gyfan sy’n darparu therapi CAR-T arloesol yn ddigon da.
Os fyddwn ni’n cynyddu lefelau staffio fel mae'r Ceidwadwyr yn ei gynnig a buddsoddi mewn darpariaeth, gallwn gyflwyno safon ddiagnostig gyflymach o 28 diwrnod hefyd, fel sy'n digwydd yn Lloegr.
Dylem fod yn fwy uchelgeisiol hefyd wrth gasglu gwybodaeth am driniaethau canser yng Nghymru i berffeithio triniaethau a gwella rhagolygon.
Mae Blood Cancer UK yn elusen sy'n ymroddedig i drechu canser y gwaed trwy ariannu ymchwil a chefnogi'r rhai y mae'r cyflwr yn effeithio arnynt. Ers 1960 mae wedi buddsoddi dros £500 miliwn mewn ymchwil, trawsnewid triniaethau ac achub bywydau.
Mae Cynllun Gweithredu Blood Cancer UK, o'r enw ‘Taking blood cancer out of the shadows’ yn adroddiad polisi nodedig sy'n canolbwyntio ar wella cyfraddau goroesi o ganser y gwaed mewn oedolion ledled y DU. Mae'n nodi'r heriau sy'n peri rhwystr i’r gwelliannau sydd eu hangen i gynyddu cyfraddau goroesi.
Mae'r adroddiad yn amlinellu pum maes allweddol i wella cyfraddau goroesi a lleihau gwahaniaethau o ran mynediad at driniaeth a gofal i'r rhai sy'n byw gyda chanser y gwaed.
Datblygwyd y cynllun gweithredu mewn cydweithrediad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ymchwilwyr, ac unigolion y mae canser y gwaed yn effeithio arnynt. Mae’n argymell gwelliannau mewn meysydd fel datblygu'r gweithlu, mentrau diagnosis cynnar, lleihau rhwystrau rhag cael mynediad at ofal, a chynyddu mynediad at driniaethau.