Sam Rowlands MS for North Wales is backing a campaign calling for action to improve lung health.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, recently joined fellow members at the “Asthma + Lung UK Cymru – Fighting for Breath” event at the Senedd.
He said:
I was delighted to have the opportunity to show my support for this charity.
The figures for the number of people dying in Wales from respiratory problems are quite staggering, and it’s even more unbelievable that Wales has the highest level of respiratory deaths in the whole of Western Europe.
Nevertheless, it was good to meet with health care professionals to discuss the future and to talk to people suffering with lung conditions and hear about their experiences.
The event was held to celebrate Asthma + Lung UK Cymru’s new strategy and set its vision for the future where we live in a world where everyone has healthy lungs.
Too many people breathe toxic air, hospital admissions for lung conditions are rising, and yet there are still misconceptions that illnesses like asthma, bronchiectasis and COPD are not life-threatening or serious, preventing people from getting timely and effective diagnosis and treatment.
Less than 2% of all publicly funded research in the UK is spent on finding cures and treatments for breathlessness and the charity says now is the moment to transform lung health.
Sam Rowlands AS yn cefnogi galwadau i wella iechyd yr ysgyfaint yng Nghymru
Mae Sam Rowlands AS Gogledd Cymru yn cefnogi ymgyrch sy’n galw am weithredu i wella iechyd yr ysgyfaint.
Yn ddiweddar ymunodd Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol, â’i gyd-aelodau yn nigwyddiad “Asthma+Lung UK Cymru – Brwydro dros Anadl” yn y Senedd.
Dywedodd:
Roeddwn yn falch iawn o gael y cyfle i ddangos fy nghefnogaeth i’r elusen hon.
Mae’r ffigurau ar gyfer nifer y bobl sy’n marw yng Nghymru o broblemau anadlol yn syfrdanol, ac mae hyd yn oed yn fwy anghredadwy mai Cymru sydd â’r lefel uchaf o farwolaethau anadlol yng Ngorllewin Ewrop gyfan.
Serch hynny, roedd yn braf cwrdd â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i drafod materion ar gyfer y dyfodol, ac i siarad â phobl sy’n dioddef o gyflyrau’r ysgyfaint a chlywed am eu profiadau.
Cynhaliwyd y digwyddiad i ddathlu strategaeth newydd Asthma+Lung UK Cymru ac i bennu gweledigaeth y mudiad ar gyfer y dyfodol, sef y caiff pawb fyw mewn byd lle mae gan bawb ysgyfaint iach.
Mae gormod o bobl yn anadlu aer gwenwynig, mae derbyniadau i'r ysbyty oherwydd cyflyrau'r ysgyfaint yn cynyddu, ac eto mae camsyniadau o hyd nad yw salwch fel asthma, bronciectasis a COPD yn ddifrifol ac yn fygythiad i fywyd, ac mae hyn yn atal pobl rhag cael diagnosis a thriniaeth amserol ac effeithiol.
Mae llai na 2 y cant o’r holl waith ymchwil a ariennir yn gyhoeddus yn y DU yn cael ei wario ar ddod o hyd i iachâd a thriniaethau ar gyfer diffyg anadl, a dywed yr elusen mai nawr yw’r foment i drawsnewid iechyd yr ysgyfaint.