
Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on his constituents to celebrate Welsh Language Music Day in Wrexham.
This Friday, February 7, is Welsh Language Music Day also known as ‘Dydd Miwsig Cymru,’ and to support the event two days of entertainment is being offered in Wrexham.
Mr Rowlands said:
Welsh Language Day is a celebration of Welsh music and the vibrant music scene in Wales and I am delighted to see Wrexham holding events across the city.
This annual event was launched in 2013 as a way of promoting music created in the Welsh language and has grown to become a significant event in the Welsh music calendar.
There promises to be something for everyone this weekend and it is well worth checking out what is on offer with several events being held in Tŷ Pawb in the centre of the city.
Welsh Language Music Day celebrates all forms of Welsh Language music. Whether you’re into indie, rock, punk, funk, folk, electronica, hip hop or anything else, there’s incredible music being made in the Welsh language for you to discover.
Tŷ Pawb’s events take place this Saturday Feb 8 and there will be free entry all day so no need to book! Among the sessions will be a family art club, from 10am -12pm followed by live music in the food court until 2pm.
Live Six Nations, featuring Wales v Italy, will also be shown on the big screen from 2pm-30pm and from 7pm-11pm more live music.
On Friday February 7 there will be other events taking place at Saith Seren, Magic Dragon Brewery Tap and NGHTCLB.
Sam Rowlands AS yn cefnogi dathlu'r Gymraeg yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn galw ar ei etholwyr i ddathlu Dydd Miwsig Cymru yn Wrecsam.
Ddydd Gwener yma, 7 Chwefror, yw Dydd Miwsig Cymru ac i gefnogi'r digwyddiad mae dau ddiwrnod o adloniant yn cael ei gynnig yn Wrecsam.
Meddai Mr Rowlands:
Mae Dydd Miwsig Cymru yn ddathliad o gerddoriaeth Gymraeg a'r sin gerddoriaeth fywiog yng Nghymru ac rwy'n falch iawn o weld Wrecsam yn cynnal digwyddiadau ar draws y ddinas.
Lansiwyd y digwyddiad blynyddol hwn yn 2013 fel ffordd o hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg ac mae wedi tyfu i fod yn ddigwyddiad arwyddocaol yng nghalendr cerddoriaeth Cymru.
Bydd rhywbeth i bawb y penwythnos hwn ac mae'n werth cymryd cip ar yr arlwy gyda sawl digwyddiad yn cael eu cynnal yn Nhŷ Pawb yng nghanol y ddinas.
Mae Dydd Miwsig Cymru yn dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg. O indi, roc, pync a ffync i werin, electronica, hip hop ac yn y blaen - mae ‘na rywbeth i bawb.
Mae digwyddiadau Tŷ Pawb yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn yma 8 Chwefror a bydd mynediad am ddim drwy'r dydd felly does dim angen cadw’ch lle! Ymysg y sesiynau bydd clwb celf i'r teulu, o 10am tan 12pm ac yna cerddoriaeth fyw yn yr ardal fwyd tan 2pm.
Bydd gemau’r chwe gwlad byw, sy'n cynnwys Cymru v Yr Eidal, hefyd yn cael eu dangos ar y sgrin fawr rhwng 2pm a 3pm a bydd mwy fyth o fiwsig byw rhwng 7pm ac 11pm.
Ddydd Gwener 7 Chwefror bydd digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal yn Saith Seren, Magic Dragon Brewery Tap a NGHTCLB.