Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing a major event in Wrexham to commemorate the 80th year anniversary of the D-Day landings in Wrexham.
D-Day, 6 June 1944, marked the beginning of Operation Overlord, the largest air, naval and land operation in history when over 150,000 troops crossed the English Channel on D-Day alone. It was the first step in the liberation of France and Western Europe, but the Allied Forces suffered heavy losses with almost 210,000 casualties by the end of Operation Overlord.
On Thursday 6 June 6 2024, 80 years on, there will be a special parade to commemorate those who fought and those who lost their lives on the beaches in Normandy.
Mr Rowlands, a keen supporter of the armed forces said:
This is a wonderful opportunity for everyone to join together and support this major event in Wrexham city centre next month.
Thousands of lives were lost defending our freedom and it is only right that we all remember their sacrifices.
As we all know Wrexham has a very strong affinity with the army and it is great to see such an event being planned to honour those who paid the ultimate price for peace.
Members of the public are invited to Wrexham city centre where a parade, led by the Corps of Drums and Standard Bearers, Mayor, Armed Forces Champion, Cllr Beverley Parry Jones and members of the armed forces community, will take place.
The parade will leave St Giles Church at 1.15 pm and march to the Normandy Veterans’ Memorial, Bodhyfryd, where a short service to lay wreaths will take place.
Armed Forces Champion, Cllr Beverley Parry Jones, said:
Wrexham has strong links with the armed forces and this is our opportunity to pay tribute to casualties of the largest amphibious invasion in history.
I hope many will join with us as we gather to pay our respects to those who fought bravely and to those who lost their lives, for the freedoms we enjoy today.
Sam Rowlands AS yn cefnogi gorymdaith canol dinas D-Day
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd u dros Ogledd Cymru, yn cefnogi digwyddiad mawr yn Wrecsam i gofio 80 mlynedd ers glaniadau D-Day.
Roedd D-Day, 6 Mehefin 1944, yn nodi dechrau Ymgyrch Overlord, yr ymgyrch awyr, morol a thir mwyaf mewn hanes pan groesodd dros 150,000 o filwyr Sianel Lloegr ar ddiwrnod D-Day. Hwn oedd y cam cyntaf i ryddhau Ffrainc a Gorllewin Ewrop, ond dioddefodd Lluoedd y Cynghreiriaid golledion trwm gyda bron i 210,000 yn colli eu bywydau erbyn diwedd Ymgyrch Overlord.
Ddydd Iau 6 Mehefin 2024, 80 mlynedd yn ddiweddarach, bydd gorymdaith arbennig i goffáu'r rhai a frwydrodd a'r rhai a gollodd eu bywydau ar draethau Normandi.
Meddai Mr Rowlands, sy’n gefnogwyr brwd i’r lluoedd arfog:
Mae hwn yn gyfle gwych i bawb ddod at ei gilydd a chefnogi'r digwyddiad pwysig hwn yng nghanol dinas Wrecsam fis nesaf.
Collwyd miloedd o fywydau yn amddiffyn ein rhyddid ac mae'n iawn ein bod ni i gyd yn cofio eu haberth.
Fel y gwyddom i gyd, mae gan Wrecsam gysylltiad cryf iawn â'r fyddin ac mae'n wych gweld digwyddiad o'r fath yn cael ei drefnu i anrhydeddu'r rhai a gollodd eu bywydau dros heddwch.
Gwahoddir aelodau'r cyhoedd i ganol dinas Wrecsam lle bydd gorymdaith yn cael ei chynnal, dan arweiniad y Corfflu Drymiau a Banerwyr, y Maer, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Beverley Parry Jones ac aelodau o gymuned y lluoedd arfog.
Bydd yr orymdaith yn gadael Eglwys San Silyn am 1.15pm ac yn gorymdeithio i Gofeb Cyn-filwyr Normandi, Bodhyfryd, lle bydd gwasanaeth byr i osod torchau.
Meddai’r Cynghorydd Beverley Parry Jones, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog:
Mae gan Wrecsam gysylltiadau cryf â'r lluoedd arfog a dyma ein cyfle i dalu teyrnged i golledion y goresgyniad mwyaf mewn hanes.
Rwy'n gobeithio y bydd llawer yn ymuno â ni wrth i ni ymgynnull i dalu teyrnged i'r rhai a frwydrodd yn ddewr ac i'r rhai a gollodd eu bywydau, am y rhyddid rydyn ni'n ei fwynhau heddiw.