Sam Rowlands MS for North Wales is backing a council initiative to open its doors to volunteers interested in biodiversity.
Denbighshire County Council’s local provenance tree nursery at Green Gates Farm, St Asaph, aims to produce 5,000 native wildflower plants a year alongside 5,000 native trees and is inviting volunteers to join them.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government said:
This is a wonderful initiative and it is great to see the local council encouraging local people to get involved.
The project is part of an ongoing commitment to enhance biodiversity across the county by increasing wildflower meadows and planting trees.
Denbighshire County Council should be congratulated for all the effort they are putting into this project and several others across the county.
The site is already seeing the first native wildflower seeds germinating at the nursery and now the team are welcoming any volunteers to the site who may have an interest in the local environment, keen plant growers or those who generally want to learn more about the wildflower and tree planting projects the Council runs.
Emlyn Jones, Denbighshire County Council’s Head of Planning, Public Protection and Countryside Services, said:
We are proud of the biodiversity work at this site and keen to open up volunteer opportunities to those who are interested in what we are doing here for the local environment. It is a great chance to learn more about Denbighshire’s biodiversity from our experienced team at the nursery.
We are particularly keen to welcome volunteers to support us with seed collecting, potting on and other general nursery tasks related to our goal to provide 5,000 wildflower plants and 5,000 trees each year.
The nursery will also help provide trees and wildflowers to local community groups to help boost biodiversity.
If you want to volunteer contact [email protected].
Sam Rowlands AS yn cefnogi cyfleoedd gwirfoddoli Cyngor Sir Ddinbych mewn planhigfa goed
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, yn cefnogi menter gan y cyngor i agor ei ddrysau i wirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn bioamrywiaeth.
Nod planhigfa goed o stoc leol Cyngor Sir Ddinbych yn Green Gates Farm, Llanelwy, yw cynhyrchu 5,000 o blanhigion blodau gwyllt brodorol y flwyddyn ochr yn ochr â 5,000 o goed brodorol ac mae'n gwahodd gwirfoddolwyr i ymuno â nhw.
Dywedodd Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol:
Mae hon yn fenter wych ac mae'n braf gweld y cyngor lleol yn annog pobl leol i gymryd rhan.
Mae'r prosiect yn rhan o ymrwymiad parhaus i wella bioamrywiaeth ledled y sir drwy gynyddu dolydd blodau gwyllt a phlannu coed.
Dylid llongyfarch Cyngor Sir Ddinbych am yr holl ymdrechion gyda’r prosiect hwn a sawl un arall ar draws y sir.
Mae'r hadau blodau gwyllt brodorol cyntaf eisoes yn egino yn y blanhigfa, a bellach, mae'r tîm yn croesawu unrhyw wirfoddolwyr sydd â diddordeb yn yr amgylchedd lleol, tyfwyr planhigion brwd neu'r rhai sydd am ddysgu mwy am y prosiectau plannu coed a blodau gwyllt y mae'r Cyngor yn eu rhedeg.
Meddai Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Diogelu'r Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych:
Rydyn ni'n falch o'r gwaith bioamrywiaeth ar y safle hwn ac yn awyddus i agor cyfleoedd gwirfoddoli i'r rhai sydd â diddordeb yn yr hyn rydyn ni'n ei wneud yma ar gyfer yr amgylchedd lleol. Mae'n gyfle gwych i ddysgu mwy am fioamrywiaeth Sir Ddinbych gan ein tîm profiadol yn y blanhigfa.
Rydyn ni'n arbennig o awyddus i groesawu gwirfoddolwyr i'n helpu i gasglu hadau, potio a gwneud mân dasgau eraill sy'n gysylltiedig â'n nod o ddarparu 5,000 o blanhigion blodau gwyllt a 5,000 o goed bob blwyddyn.
Bydd y blanhigfa hefyd yn helpu i ddarparu coed a blodau gwyllt i grwpiau cymunedol lleol er mwyn helpu i hybu bioamrywiaeth.
Os ydych chi am wirfoddoli, e-bostiwch [email protected].