Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has sponsored an event to highlight the work of a resource recovery operator in Deeside.
Mr Rowlands, a keen supporter of encouraging recycling and a circular economy, welcomed representatives to the Welsh Parliament from enfinium, a leading UK energy from waste operator, with a site at Parc Adfer in Deeside.
He said:
I recently visited the North Wales site and I was delighted to sponsor an event to highlight the work which is being done to reduce waste across Wales.
Enfinium is a leading UK company in its field and has a very important role to play in providing energy from the waste which can’t be recycled, keeping this out of landfill. It was good to be able to welcome them to the Welsh Parliament and share this information with fellow Senedd members.
It also gave enfinium the opportunity to talk about the Repair Cafés they are encouraging people to set up near all their UK sites including the one in Flintshire, North Wales.
These days it is all too easy to replace rather than repair items and I am really pleased to see funds being offered to fix repairable goods, reduce waste and save money for families.
It is really important that we continue to reduce and recycle waste and Repair Cafés offer everyone the opportunity to do their bit to help this cause.
Enfinium, based at Parc Adfer, Deeside process non-recycable waste from Anglesey, Gwynedd, Conwy, Denbighshire and Flintshire, preventing this waste from entering landfill by using this resource to generate electricity – enough to power 45,000 homes. Enfinium are also looking to invest £200m into the site to install carbon capture technology as part of the HyNet cluster, which would decarbonise North Wales’s residual waste and transform Parc Adfer into the largest carbon removals project in Wales – putting the ‘net’ in net zero.
They recently launched an annual fund to support the UK wide efforts to reduce waste by committing £60,000 over a three-year period to help Repair Cafés within the vicinity of its UK operations fix repairable goods, reduce waste, and save families money.
A Repair Café is a community-based not-for-profit, often with charitable status, offering free repairs of common household items such as toasters, hoovers and bicycles. Every item repaired saves a family from the undue expense of buying a replacement. Research has shown that extending a product’s lifespan can lead to significant emissions savings. For example, maintaining a single television for an additional seven years results in a carbon emission saving of 657kg.
Sam Rowlands AS yn cefnogi safle creu ynni o wastraff yn y Gogledd-ddwyrain
Mae Sam Rowlands, Aelod Seneddol Cymru dros Ogledd Cymru, wedi noddi digwyddiad i dynnu sylw at waith cwmni adfer adnoddau yng Nglannau Dyfrdwy.
Yn gefnogwr brwd o annog ailgylchu a'r economi gylchol, fe wnaeth Mr Rowlands groesawu cynrychiolwyr Enfinium - cwmni ynni o wastraff blaenllaw'r DU, sydd â safle ym Mharc Adfer Glannau Dyfrdwy - i'r Senedd.
Meddai:
Ar ôl ymweld â safle'r cwmni yn y Gogledd yn ddiweddar, roeddwn i'n falch o'r cyfle i noddi digwyddiad i dynnu sylw at y gwaith sy'n cael ei wneud i leihau gwastraff ledled Cymru.
Mae Enfinium yn gwmni blaenllaw yn y DU yn ei faes ac mae ganddo rôl bwysig wrth ddarparu ynni o wastraff nad oes modd ei ailgylchu, a'i gadw allan o safleoed tirlenwi. Roedd hi'n braf eu croesawu i Senedd Cymru a rhannu'r wybodaeth hon gyda chyd-aelodau'r Senedd.
Hefyd, bu'n gyfle Enfinium siarad am y caffis trwsio maen nhw'n annog pobl i'w sefydlu ger eu holl safleoedd yn y DU, gan gynnwys un yn Sir y Fflint.
Y dyddiau hyn, mae'n rhy hawdd prynu eitemau newydd yn hytrach na thrwsio ac rwy'n falch iawn o weld arian yn cael ei gynnig i drwsio nwyddau, lleihau gwastraff ac arbed arian i deuluoedd.
Mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i leihau ac ailgylchu gwastraff ac mae caffis trwsio yn cynnig cyfle i bawb wneud eu rhan i helpu’r achos hwn.
Mae Enfinium, sydd wedi'i leoli ym Mharc Adfer, Glannau Dyfrdwy yn prosesu gwastraff nad oes modd ei ailgylchu, o Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint, gan atal y gwastraff rhag mynd i safleoedd tirlenwi drwy ddefnyddio'r adnodd hwn i gynhyrchu trydan – digon i bweru 45,000 o gartrefi. Mae Enfinium hefyd yn bwriadu buddsoddi £200m yn y safle i osod technoleg dal carbon fel rhan o glwstwr HyNet, fyddai'n datgarboneiddio gwastraff gweddilliol y Gogledd ac yn trawsnewid Parc Adfer yn brosiect tynnu carbon mwyaf Cymru - a helpu i gyrraedd y nod sero net.
Yn ddiweddar, lansiwyd cronfa flynyddol i gefnogi ymdrechion ledled y DU i leihau gwastraff drwy ymrwymo £60,000 dros dair blynedd er mwyn helpu caffis trwsio ger safleoedd y cwmni yn y DU, i drwsio nwyddau y gellir eu hatgyweirio, lleihau gwastraff ac arbed arian i deuluoedd.
Mae Caffi Trwsio yn gwmni di-elw yn y gymuned, yn aml gyda statws elusennol, sy'n cynnig trwsio eitemau cyffredin y cartref fel tostwyr, hwfyrs a beiciau, yn rhad ac am ddim. Mae pob eitem sy'n cael ei hatgyweirio yn arbed cost a'r baich o brynu eitem newydd i deulu. Mae ymchwil wedi dangos y gall ymestyn oes cynnyrch arwain at arbedion allyriadau sylweddol. Er enghraifft, mae cynnal un teledu am saith mlynedd ychwanegol yn arwain at arbed allyriadau carbon o 657kg.